Thomas Jones (mathemategydd)

mathemategydd Cymreig

Thomas Jones (23 Mehefin 175618 Gorffennaf 1807) oedd Prif Diwtor Coleg y Drindod, Caergrawnt, am ugain mlynedd ac athro mathemateg enwog yn ei ddydd. Fe'i cofir yn bennaf heddiw fel athro'r daearegwr Adam Sedgwick.

Thomas Jones
Ganwyd23 Mehefin 1756 Edit this on Wikidata
Aberriw Edit this on Wikidata
Bu farw18 Gorffennaf 1807 Edit this on Wikidata
Edgware Road Edit this on Wikidata
Man preswylCaergrawnt Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethmathemategydd Edit this on Wikidata
Am bobl eraill o'r un enw, gweler Thomas Jones.

Geni a magwraeth golygu

Credir ei fod yn fab llwyn a pherth Owen Owen Tyn y Coed, a'i forwyn. Ychydig wedyn priododd y forwyn gyda Mr Jones o Traffin, Swydd Kerry ac a fagodd Thomas Jones fel petae'n fab iddo'i hun.[1]

Coleg a gyrfa golygu

Roedd yn frodor o Aberriw, Sir Drefaldwyn. Wedi cwbwlhau ei astudiaethau yn yr ysgol uwchradd yn yr Amwythig, cafodd ei dderbyn yng Ngholeg Sant Ioan, Caergrawnt a chychwynodd yno ar 28 Mai 1774.[1]

Ar 27 Mehefin 1776, symudodd Jones o Goleg Sant Ioan i Goleg y Drindod, Caergrawnt, gan dderbyn gradd BA yn 1779 ac MA yn 1782. Fe'i gwnaed yn Ddirprwy Ddeon yn 1787–1789 ac yn Diwtor rhwng 1787-1807. Fe'i gwnaed yn Offeiriad ar y 6ed o Fehefin 1784, yn Ely, Caergrawnt ac Gannon Fen Ditton, Caergrawnt yn 1784, a Swaffham Prior, yn ddiweddarach yn y flwyddyn honno.

Marwolaeth golygu

Fe'i claddwyd ym mynwent Coleg Dulwich, yn ne-ddwyrain Llundain a cheir cerflun ohono yng Ngholeg y Drindod, Caergrawnt.

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 "Thomas Jones (JNS774T)". Cronfa Ddata Alumni Caergrawnt. Prifysgol Caergrawnt.