Thomas Richards (gramadegydd)

clerigwr a geiriadurwr

Curad Llangrallo (Pen-y-bont ar Ogwr), gramadegydd a geiriadurwr oedd Thomas Richards (c. 171020 Mawrth 1790).

Thomas Richards
Ganwyd1710 Edit this on Wikidata
Bu farw20 Mawrth 1790 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethgeiriadurwr, ieithydd Edit this on Wikidata

Cyhoeddodd un o eiriaduron Cymraeg mwyaf cynhwysfawr y ddeunawfed ganrif, Antiquæ linguæ Britannicæ thesaurus: being a British, or Welsh-English dictionary, ynghyd â gramadeg Cymraeg yn ei ragflaenu A brief introduction to the ancient British, or Welsh language: being a compendious and comprehensive grammar. Ymddangosodd y ddau mewn un gyfrol a gyhoeddwyd ym Mryste ym 1753.

Yn ogystal â hynny, cyfieithodd waith Philip Morant, The cruelties and persecutions of the Romish church display’d (Llundain, 1728) i'r Gymraeg fel Creulonderau ac herlidigaethau eglwys Rufain (Caerfyrddin, 1746).


Baner CymruEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.