Seiclwr proffesiynol Norwyaidd ydy Thor Hushovd (ganwyd 18 Ionawr 1978), sy'n reidio dros Cervélo TestTeam. Adnabyddir Hushovd am ei sbrintio a'i dreialon amser. Mae'n gyn-bencampwr treial amser Norwy. Ef oedd y cyntaf o Norwy i wisgo Crys Melyn y Tour de France, ac hyd yn hyn yr unig un o Norwy i wneud hynny.

Thor Hushovd
Thor Hushovd, 2007
Gwybodaeth bersonol
Enw llawnThor Hushovd
Dyddiad geni (1978-01-18) 18 Ionawr 1978 (46 oed)
Taldra1.83m
Pwysau81kg
Manylion timau
DisgyblaethFfordd a Thrac
RôlReidiwr
Math seiclwrSbrintiwr
Arbennigwr y Clasuron
Tîm(au) Proffesiynol
2000–2008
2009–
Prif gampau
Tour de France
Dosbarthiad Pwyntiau (2005, 2009)
7 Cymal

Vuelta a España

Dosbarthiad Pwyntiau (2006)
2 Gymal

Giro d'Italia

1 Cymal

Pencampwriaethau Ras Ffordd Norwy (2004)
Pencampwriaethau Treial Amser Norwy (2004, 2005)
Gent-Wevelgem (2006)

Omloop Het Nieuwsblad (2009)
Golygwyd ddiwethaf ar
27 Gorffennaf 2009

Bywgraffiad golygu

Ganwyd Hushovd yn Grimstad. Cyn troi'n broffesiynol yn 1998 enillodd bencampwriaeth treial amser y byd o dan 23 a fersiynau o dan 23 rasys clasurol Paris-Roubaix a Paris-Tours.

Hushovd oedd pencampwr treial amser Norwy yn 2004 a 2005, a pencampwr ras ffordd 2004. Yn 2006, enillodd Hushovd saith ras UCI ProTour a dau gymal yn Tour de France 2007. Enillodd y prologue yn Strasbourg a gwisgodd y Crys Melyn ar ôl y diwrnod cyntaf er ei fod â toriadau ar ei fraich. Parhaodd i reidio gyda pwythau yn ei fraich, gan ail-ennill y Crys Melyn ar ôl yr ail gymal pan orffennodd yn drydydd. Gorffennodd Hushovd y Tour yn yr un modd gan ennill y cymal olaf wrth guro Robbie McEwen mewn sbrint. Enillodd gymal 6 yn Vuelta a España 2006, gwisgodd y crys aur am dri diwrnod ac ennill y Dosbarthiad Pwyntiau.

Enillodd yr ail gymal mewn sbrint yn Tour de France 2008.[1]

Arwyddodd Hushovd gytundeb gyda Cervélo TestTeam yn 2009.[2] Cipiodd un o fuddugoliaethau cynnar y tîm gyda cymal 3 Tour of California. Enillodd Crys Gwyrdd y Tour de France am yr ail dro, o flaen Mark Cavendish. Enillodd Hushovd un cymal. Wedi ymryson yng nghymal 14, pan ddiddymwyd Cavendish i gefn y peloton, wedi iddo groesi'r llinell gyntaf dyfarnwyd ei fod wedi amharu ar Hushovd. Derbyniodd Hushovd glod am ei ymdrech yng nghymal 17, pan ymosododd oddi ar flaen y peleton, gan ennill dau sbrint canolraddol yn y broses.[3][4][5][6]

Canlyniadau golygu

1998
1af   Pencampwriaethau Treial Amser y Byd o dan 23
2000
7fed Treial amser, Gemau Olympaidd
2001
1af Cymal 5 — Tour de France Team Time Trial
1af Tour de Normandie
1af Dosbarthiad Pwyntiau
1af Tour of Sweden (neu'r PostGirot Open)
1af Paris-Corrèze
2002
1af Cymal 18 – Tour de France
1af Cymal 2 – Tour de l'Ain
2003
1af Cymal 2 - Critérium du Dauphiné Libéré
1af Cymal 1 - Vuelta a Castilla y León
2004
1af   Pencampwriaethau Cenedlaethol Treial Amser Norwy
1af   Pencampwriaethau Cenedlaethol Ras Ffordd Norwy
1af Cymal 8 – Tour de France
1 diwrnod   Crys Melyn Cymal 2
1af Cymal 1 - Critérium du Dauphiné Libéré
1af Coupe de France de cyclisme sur route (cyfres o 15 ras)
1af Classic Haribo
1af Grand Prix de Denain
1af Tour de Vendée
2005
1af   Pencampwriaethau Cenedlaethol Treial Amser Norwy
1af Cymal 7 – Volta a Catalunya
1af Dosbarthiad Pwyntiau
1af   Crys GwyrddTour de France
1af Cymal 5 – Vuelta a España
1af Cymal 10 – Vuelta a España
1af Cymal 2 – Dauphiné Libéré
3ydd Milan-San Remo
2006
1af Prologue - Tour de France
1af Cymal 20 - Tour de France
2 ddiwrnod   Crys Melyn Cymalau 1 & 3
1af Cymal 6 Vuelta a España
1af   Dosbarthiad Pwyntiau
1af Gent-Wevelgem
1af Cymal 7 – Dauphiné Libéré
1af Cymal 4 — Tirreno-Adriatico
1af Cymal 3 – Volta a Catalunya
1af Dosbarthiad Pwyntiau
1af Dosbarthiad Pwyntiau – Four Days of Dunkirk
2007
1af Cymal 7 Giro d'Italia
1af Cymal 4 Tour de France
2008
1af Dosbarthiad Pwyntiau - Volta a Catalunya
1af Prologue Volta a Catalunya
1af Cymal 1 Volta a Catalunya
1af Prologue Paris-Nice
1af Dosbarthiad Pwyntiau
1af Cymal 1 Tour Méditerranéen
1af Cymal 6 Four Days of Dunkirk
1af Cymal 2 Tour de France
2009
1af Cymal 3 - Tour of California
1af Omloop Het Nieuwsblad
1af Cymal 1 Volta a Catalunya
1af Cymal 6 Volta a Catalunya
1af   Crys Gwyrdd Tour de France
1af Cymal 6
  Cymal 17 Gwobr Brwydrol
3ydd Paris-Roubaix
3ydd Milan-San Remo

Cyfeiriadau golygu

Dolenni allanol golygu

 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: