Mae Timor yn ynys yn ne-ddwyrain Asia. Mae rhan ddwyreiniol yr ynys yn wladwriaeth annibynnol Dwyrain Timor, tra mae'r rhan orllewinol yn rhan o Indonesia dan yr enw Gorllewin Timor.

Timor
Mathynys Edit this on Wikidata
Poblogaeth3,368,735 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolTimor archipelago, Ynysoedd Swnda Lleiaf Edit this on Wikidata
GwladBaner Dwyrain Timor Dwyrain Timor
Baner Indonesia Indonesia
Arwynebedd30,777 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr2,963 metr Edit this on Wikidata
GerllawMôr Timor Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau9.08°S 125.08°E Edit this on Wikidata
Hyd476 cilometr Edit this on Wikidata
Map

Daw'r enw o timur, "dwyrain" mewn Malayeg; mae'r ynys yn un o'r rhai mwyaf dwyreiniol o'r gadwyn o ynysoedd. Mae'n ynys weddol fawr, 11,883 milltir sgwâr (30,777 km²). Mae Awstralia i'r de o'r ynys, Sulawesi a Flores i'r gogledd-orllewin a Sumba i'r gorllewin. I'r gogledd-ddwyrain mae Ynysoedd Barat Daya, yn cynnwys Wetar.

Roedd rhan orllewinol yr ynes yn rhan o ymerodraeth yr Iseldiroedd o ddechrau'r 19g hyd 1949 pan ddaeth yn rhan o Indonesia. Roedd dwyrain yr ynys yn eiddo i Portiwgal o 1596 hyd 1975. Yn 1975 meddiannwyd y rhan ddwyreiniol hefyd gan Indonesia. Wedi ymladd hir a gwaedlyd rhwng y mudiad cenedlaethol a byddin Indonesia, cynhaliwyd refferendwm yn 1999, pan bleidleisiodd poblogaeth dwyrain Timor dros annibyniaeth. Daeth Dwyrain Timor yn annibynnol yn 2002.

Ynys Timor yn Indonesia