Tom Macdonald

newyddiadurwr a nofelydd Cymreig

Newyddiadurwr a nofelydd Cymreig oedd Tom Macdonald (2 Tachwedd 19009 Chwefror 1980). Roedd yn frodor o Geredigion.

Tom Macdonald
Ganwyd2 Tachwedd 1900 Edit this on Wikidata
Llandre Edit this on Wikidata
Bu farw9 Chwefror 1980 Edit this on Wikidata
Capel Bangor Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
  • Ysgol Ardwyn Edit this on Wikidata
Galwedigaethnewyddiadurwr, nofelydd Edit this on Wikidata

Bywgraffiad golygu

Daeth ei dad, a oedd yn dincer o dras Wyddelig, i ymgartefi yn Llanfihangel Genau'r Glyn (Llandre), a treuliodd Tom ei blentyndod cynnar yma cyn i’r teulu synud i Ben-y-Garn ac wedyn i Bow Street.

Addysgwyd ef yng Ngoleg y Brifysgol, Aberystwyth, cyn iddo ddechrau ar yrfa fel newyddiadurwr a golygydd papur newydd am ddeugain mlynedd yn Lloegr, Tsieina, Awstralia a De Affrica. Dychwelydodd i Gymru ym 1965 i ymddeol.

Gwaith llenyddol golygu

Cyhoeddodd chwe nofel yn Saesneg wedi eu lleoli yng Nghymru - Gareth the Ploughman (1939); (a gyfieithwyd i’r Gymraeg gan Nansi Griffiths fel Croesi’r Bryniau (1981); The Peak (1941), Gate of Gold (1946); The Black Rabbit (1948), How Soon Hath Time (1950); a The Song of the Valley (1951).

Hefyd ysgrifennodd ddwy nofel Gymraeg Y Nos Na Fu (1974) a Gwanwyn Serch (1982), a gyhoeddwyd ar ôl iddo farw, a chyfrol o atgofion o dan y teil Y Tincer Tlawd (1971), a oedd yn gyfieithiad o The White Lanes of Summer (1975). Mae hon yn gyfrol o atgofion am ei blentyndod yn Llanfihangel Genau'r Glyn, Pen-y-Garn a Bow Street yn ystod y blynyddoedd cyn y Rhyfel Byd Cyntaf (1914-1918).

Llyfryddiaeth golygu

MacDonald, Tom (1975). The White Lanes of Summer. Macmillan, London. ISBN 0333-17975-7

Dolen allanol golygu