Seiclwr trac Seisnig oedd Thomas "Tommy" Charles Godwin (5 Tachwedd 19203 Tachwedd 2012). Ganwyd yn Connecticut, Yr Unol Daleithiau i rieni o Loegr a dychwelodd y teulu i wledydd Prydain yn 1932[1]. Bu'n rasio yn ystod y 1940au a'r 1950au ac yn ddiweddarach daeth yn hyfforddwr, rheolwr a gweinydd yn y byd seiclo.

Tommy Godwin
Ganwyd5 Tachwedd 1920 Edit this on Wikidata
Connecticut Edit this on Wikidata
Bu farw3 Tachwedd 2012 Edit this on Wikidata
Solihull Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig, Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon, Unol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Galwedigaethseiclwr cystadleuol, person busnes Edit this on Wikidata
Chwaraeon
Gwlad chwaraeony Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata

Enillodd Godwin dau fedal efydd yn pursuit tîm (gyda Robert Geldard, David Ricketts a Wilfrid Waters) a Kilo Gemau Olympaidd 1948 yn Llundain, a medal efydd arall yn Kilo Gemau'r Gymanwlad 1950.

Rhwng 1936 a 1950, gweithiodd Godwin yn Birmingham Small Arms Company. Am 36 mlynedd o 1950 rhedodd siop feics yn Silver Street yn ardal Kings Heath, Birmingham.[2]

Roedd Godwin yn reolwr o dîm cenedlaethol Prydain yng Ngemau Olympaidd 1964 yn Tokyo, bu'n Lywydd y British Cycling Federation a chlwb seiclo Solihull yn ddiweddarach. Rhedodd y gwersyll ymarfer cyntaf yn Mallorca a'r cwrs trac cyntaf yn Lilleshall. Sefydlodd Birmingham RCC, a bu ymysg arloeswyr cyntaf hyfforddwyr seiclo. Hyfforddodd a chynghorodd genhedlaeth o seiclwyr trac Prydain; mae nifer ohonynt wedi ennill medalau cenedlaethol a rhyngwladol.

Cyhoeddwyd ei hunanfywgraffiad It Wasn't That Easy: The Tommy Godwin Story yn 2007 gan y 'John Pinkerton Memorial Publishing Fund'.[3] Yn 91 oed fe'i ddewiswyd i gymeryd rhan yn nhaith y Ffagl Olympaidd o gwmpas y DU cyn cychwyn Gemau Olympaidd Lundain yn 2012, a fe'i gariodd ar gymal 300 metr drwy Solihull ar 1 Gorffennaf 2012. Bu farw yn Hospis Marie Curie yn Solihull ar 3 Tachwedd 2012.

Cyfeiriadau golygu

  1. "Gwefan swyddogol y Gemau Olympaidd". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-02-25. Cyrchwyd 2007-10-04.
  2. Hanes Tommy Godwin Cycles ar wefan 'Made in Birmingham'
  3. "Adolygiad o It Wasn't That Easy: The Tommy Godwin Story". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2007-09-01. Cyrchwyd 2007-10-04.