Total Nonstop Action Wrestling

Mae Total Nonstop Action Wrestling neu TNA yn gwmni ymgodymu (reslo) Americanaidd ai sefydlwyd ym mis Mai 2002 gan Jeff Jarrett a'i dad. Mae rhan fwyaf o gwmni reslo TNA yn perthyn i 'Panda Energy International'. Enw'r cwmni yw 'TNA Entertainment, LLC' sydd wedi ei leoli yn Nashville ac Orlando.

Total Nonstop Action Wrestling
Enghraifft o'r canlynolbusnes, professional wrestling promotion, menter Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu10 Mai 2002 Edit this on Wikidata
Dechreuwyd10 Mai 2002 Edit this on Wikidata
SylfaenyddJeff Jarrett, Jerry Jarrett, Bob Ryder Edit this on Wikidata
Rhiant sefydliadAnthem Sports & Entertainment Edit this on Wikidata
Ffurf gyfreithiolcwmni cyfyngedig (UDA) Edit this on Wikidata
Cynnyrchtie-in Edit this on Wikidata
PencadlysNashville, Tennessee Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://tnawrestling.com/ Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

TNA yw cystadlaeth mwyaf y cwmni reslo Americanaidd WWE, mae'r ddau gwmni o dan ymchwiliad gan 'United States House Committee on Oversight and Government Reform' ar y funud yn dilyn marwolaeth nifer o reslwyr yn diweddar.

Ym mis Hydref 2007 dechreuwyd ddarlledu prif sioe TNA, TNA iMPACT! am ddwy awr yn wythnosol ar sianel teledu Spike yn yr Unol Daleithiau ac ar sianel Bravo ym Mhrydain.

Dechreuodd Tesco werthu modelau ymgodymu TNA ym mis Hydref 2007.

Wedi i WWE brynnu ei chystadleathau mwyaf, sef World Championship Wrestling ac Extreme Championship Wrestling yn 2001, daeth WWE yn y cwmni ymgodymu proffesiynol fwyaf y byd a bu'n cefnogi'r ymgodymwr proffesiynol Jeff Jarret a'i gad. Jerry Jarret a greodd TNA gyda help cwmni ymgodymu National Wrestling Alliance yn 2002. Torodd TNA i ffwrdd o gwmni National Wrestling Alliance yn 2004 gan ddod yn gwmni annibynnol.

Dolenni allanol golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am chwaraeon. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.