Totnes

tref yn Nyfnaint

Tref farchad a phlwyf sifil yn Nyfnaint, De-orllewin Lloegr, yw Totnes,[1] sy'n gorwedd ar aber afon Dart. Fe'i lleolir yn ardal an-fetropolitan South Hams. Saif tua 22 milltir (35 km) i'r de o ddinas Caerwysg ac mae'n ganolfan weinyddol Cyngor Dosbarth South Hams, o fewn Dyfnaint.

Totnes
Mathtref, plwyf sifil Edit this on Wikidata
Ardal weinyddolArdal South Hams
Gefeilldref/iVire, Salfit Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirDyfnaint
(Sir seremonïol)
GwladBaner Lloegr Lloegr
Cyfesurynnau50.4322°N 3.6839°W Edit this on Wikidata
Cod SYGE04003183 Edit this on Wikidata
Cod OSSX805605 Edit this on Wikidata
Cod postTQ9 Edit this on Wikidata
Map

Mae Caerdydd 122 km i ffwrdd o Totnes ac mae Llundain yn 278.6 km. Y ddinas agosaf ydy Plymouth sy'n 33.2 km i ffwrdd.

Hanes golygu

Codwyd castell yn Totnes yn 907 ac roedd yn dref farchnad o bwys erbyn y 12g. Adlewyrchir cyfoeth y lle yn y gorffennol gan y sawl tŷ marsiandïwr hen yno, sy'n dyddio o'r 16g a'r ganrif olynol.

Cysylltir Totnes â chwedl Brutus, cyndad chwedlonol y Brythoniaid y ceir ei hanes yng ngwaith Nennius a Sieffre o Fynwy. Yn ôl y ffug-hanes, glaniodd Brutus a'i ddilynwyr yn Totnes pan gyrhaeddasant Ynys Prydain ar ôl hwylio o Gaerdroea. Nodir y safle honedig gan garreg a elwir yn "Garreg Brutus" (Saesneg: Brutus Stone). Does dim sail hanesyddol i'r chwedl.

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. British Place Names; adalwyd 19 Tachwedd 2019

Dolenni allanol golygu

 
Yr Eastgate, Totnes, cyn ei ddinistrio gan dân yn 1990


  Eginyn erthygl sydd uchod am Ddyfnaint. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.