Trais gwleidyddol

Term eang sydd yn cwmpasu defnydd trais mewn cyd-destun gwleidyddol, yn bennaf er mwyn cyrraedd nod wleidyddol benodol, yw trais gwleidyddol. Gall trais gwleidyddol gynnwys terfysgaeth wleidyddol, rhyfel, gwrthryfel, chwyldro, gormes, bradlofruddiaeth, terfysg, ac anhrefn sifil. Mae rhai diffiniadau yn ei neilltuo at drais gan weithredyddion anwladwriaethol yn unig, tra bo eraill yn cynnwys trais gan wladwriaethau hefyd.

Gweler hefyd golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am wleidyddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.