Trefnwr angladdau

Rhywun proffesiynol sy'n ymwneud â'r busnes o ddefodau angladd yw trefnwr angladdau. Gall eu swyddi gynnwys pêr-eneinio a chladdu neu amlosgi'r marw, yn ogystal â chynllunio a threfnu seremoni'r angladd ei hun. Weithiau bydd gofyn iddynt wisgo'r meirw mewn dillad arbennig, eu gosod mewn arch, ac os bydd yr arch ar agor, rhoi math o golur ar y rhannau hynny o'r corff fydd i'w gweld yn ystod y seremoni.

Ffenestr siop trefnwr angladdau yn Ffrainc
Eginyn erthygl sydd uchod am alwedigaeth, swydd, cyflogaeth neu waith. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Eginyn erthygl sydd uchod am farwolaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.