Dinas yng ngogledd-ddwyrain Talaith Chubut, yr Ariannin, yw Trelew. Saif y ddinas ar Afon Camwy (Río Chubut), tua 25 km o'r môr, a 17 km o Rawson, prifddinas y dalaith. Enwyd y dref ar ôl Lewis Jones.

Trelew
Mathdinas, bwrdeistref, dinas fawr Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 20 Hydref 1886 Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC−03:00 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirRawson Department Edit this on Wikidata
GwladBaner Yr Ariannin Yr Ariannin
Arwynebedd249 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr11 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau43.2533°S 65.3094°W Edit this on Wikidata
Cod postU9100 Edit this on Wikidata
Map

Tyfodd y ddinas pan agorwyd Rheilffordd Ganolog Chubut i gysylltu rhan isaf Dyffryn Camwy a phorthladd Porth Madryn. Trelew oedd pen draw'r rheilffordd yn Nyffryn Camwy pan agorwyd hi yn 1888, er iddi gael ei hymestyn yn ddiweddarach.

Mae gan Trelew boblogaeth o bron i 100,000, ond mae'r ddinas yn dioddef diweithdra mawr ers yr argyfwng economaidd yn 2000 ac mae llawer o bobol wedi symud i ffwrdd.

Maes awyr Trelew yw canolbwynt rhwydwaith trafnidiaeth canol Patagonia.

Museo Pueblo de Luis, Trelew

Dolenni allanol golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am yr Ariannin. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.