Tri Thlws ar Ddeg Ynys Prydain

Trysorau arbennig o briodoleddau rhyfeddol a gysylltir ag arwyr a brenhinoedd yr Hen Ogledd oedd Tri Thlws ar Ddeg Ynys Prydain. Cedwir sawl fersiwn o'r testun Cymraeg Canol sy'n eu rhestru; un o'r cynharaf yw testun Llawysgrif Caerdydd 17.

Tri Thlws ar Ddeg Ynys Prydain
Enghraifft o'r canlynolclass of mythical entities Edit this on Wikidata
Mathgwrthrych chwedlonol Edit this on Wikidata
Yn cynnwysDyrnwyn Edit this on Wikidata
Enw brodorolTri Thlws ar Ddeg Ynys Prydain Edit this on Wikidata

Dyma'r Tri Thlws ar Ddeg:

  1. Dyrnwyn, cleddyf Rhydderch Hael; pe bai rhyfelwr o dras uchel yn ei thynnu o'r gwaun torrai'n fflam a redai ar ei hyd.
  2. Mwys (basged neu hamper) Gwyddno Garanhir; pe rhoddid bwyd i un dyn ynddo ceid bwyd i gant ohono.
  3. Corn Brân Galed, a ddiwallai bawb.
  4. Car (cerbyd rhyfel) Morgant Mwynfawr; pe bai rhywun yn mynd ynddi byddai'n ei gludo ar unwaith i ble bynnag y dymunai.
  5. Cebystr Clydno Eiddin; pe rhwymai Clydno y cebystr wrth droed y gwely byddai'r march a ddymunai yno yn y bore
  6. Cyllell Llawfrodedd Farchog; oedd yn gallu gwasanaethu 24 o ryfelwyr wrth y bwrdd ar yr un pryd.
  7. Pair Dyrnwch Gawr; ni ferwai gig ond i rywun dewr ond iddo ef rhoddid digonedd
  8. Hogalen Tudwal Tudclyd
  9. Pais (arfwisg) Padarn Beisrudd; medrai newid maint i ffitio pobl teilwng i'w gwisgo ond ni fyddai'n wneud hynny yn achos taeog.
  10. Grên a dysgl Rhygenydd Ysgolhaig; llestri digonedd.
  11. Gwyddbwyll Gwenddolau ap Ceidio; set gwyddbywll Geltaidd hud a lledrith.
  12. Llen (clogyn) Arthur yng Nghernyw; mantell hud a lledrith a wnai'r gwisgwr yn anweladwy
  13. Mantell Tegau Eurfron; rhoddai brawf o ddiweirdeb

Ychwanegwyd:

Maen (gem) Modrwy Eluned Ddedwydd; gem a modrwy hud y ceir eu hanes yn chwedl Iarlles y Ffynnon.

Yn ôl un fersiwn o'r testun enillodd Taliesin y Tlysau hyn "yn y Gogledd" (h.y. yr Hen Ogledd).

Ffynhonnell golygu

  • Trioedd Ynys Prydein: The Triads of the Island of Britain, gol. Rachel Bromwich (Caerdydd, argraffiad newydd 1991), atodiad III

Gweler hefyd golygu