Triongl

polygon gyda thair ochr

Polygon sydd â thair ochr llinell a thri fertig yw triongl (enw gwrywaidd). Mae'n un o'r siapiau sylfaenol mewn geometreg. Mae triongl gyda fertigau A, B, a C yn cael ei ddynodi mewn mathemateg fel . Mae cyfanswm onglau mewnol pob triongl yn 180 ° a chyfanswm yr onglau allanol yn 360 °.

Triongl
Enghraifft o'r canlynolsiâp geometrig Edit this on Wikidata
Mathbicentric polygon, simplex, tritope, polygon, planar generalized triangle Edit this on Wikidata
Rhagflaenwyd gandigon, segment o linell Edit this on Wikidata
Olynwyd ganPedrochr, tetrahedron Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
arwydd "Ildiwch!"
Arwydd "Ildiwch!" Dyma enghraifft o driongl hafalochrog, sy'n driongl rheolaidd.

Mewn geometreg Ewclidaidd, mae unrhyw dri phwynt, pan nad ydynt yn unllin (collinear), yn pennu triongl unigryw ac ar yr un pryd, plân unigryw (hy, lle Ewclidaidd dau-ddimensiwn). Mae'r erthygl hon yn ymwneud â thrionglau mewn geometreg Ewclidaidd, ac yn arbennig, y plân Ewclidaidd, ac eithrio lle nodir fel arall.

Mathau golygu

Gallwn ddosbarthu'r gwahanol fathau o drionglau mewn sawl ffordd, gan gynnwys gan edrych ar hyd ei llinellau (neu 'ochrau') neu yn ôl y trionglau sydd ynddynt.

Mathau yn ôl hyd yr ochrau golygu

Mae'r triongl hafalochrog yn bolygon rheolaidd, mae'r isosceles a'r anghyfochrog yn bolygonau afreolaidd.

Enw Diagram Ochrau Onglau
Triongl hafalochrog   Mae pob ochr yn gyfartal (yr un hyd) Mae pob ongl yn hafal; pob un yn 60 °.[1]
Triongl Iosceles   Mae rhai mathemategwyr yn diffinio triongl isosceles fel triongl sydd â dwy ochr gyfartal yn union, tra bod eraill yn diffinio triongl isosceles fel un gydag o leiaf dwy ochr gyfartal.[2] Ceir dwy ongl sy'n gyfartal.
Triongl anghyfochrog   Mae pob ochr yn anghyfartal Mae pob ongl yn anghyfartal

Mathau yn ôl yr onglau golygu

Gellir hefyd ddidoli trionglau yn ôl maint eu honglau mewnol. Dywedir fod trionglau lem ac aflem hefyd yn drionglau arodgo'.[3]

Enw Diagram Ochrau Onglau
Triongl ongl sgwâr
hefyd: Triongl sgwâr
  Mae pob ochr yn hafal (neu'n 'gymersur') Mae pob ongl yn hafal (60 °)
Triongl aflem   Mae dwy ochr yn hafal Mae dwy ongl yn hafal
Triongl lem   Os c yw hyd yr ochr hiraf, yna a2 + b2 > c2, lle mae a a b yn hyd yr ochr arall. Mae pob ongl yn llai na 90 °


Polygonau

Triongl | Pedrochr | Pentagon | Hecsagon | Heptagon | Octagon | Nonagon | Decagon | Hendecagon | Dodecagon | Triskaidecagon | Tetradecagon | Pentadecagon | Hexadecagon | Heptadecagon | Octadecagon | Enneadecagon | Icosagon | Chiliagon | Myriagon


Gweler hefyd golygu

Chwiliwch am triongl
yn Wiciadur.

Cyfeiriadau golygu

  1. Weisstein, Eric W. "Equilateral Triangle". MathWorld.
  2. Weisstein, Eric W. "Isosceles Triangle". MathWorld.
  3. termau.cymru; adalwyd 7 Medi 2018.