Tryfan

mynydd (917.5m) ym Mwrdeistref Sirol Conwy

Mynydd yn y Glyderau yn Eryri yw Tryfan, a chanddo uchder o 3010 troedfedd (917.5m).

Tryfan
Awyrlun o Dryfan o Gwm Idwal
Mathmynydd, copa Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirConwy Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr917 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.1149°N 3.9975°W Edit this on Wikidata
Cod OSSH6640859390 Edit this on Wikidata
Manylion
Amlygrwydd197.4 metr Edit this on Wikidata
Rhiant gopaGlyder Fawr Edit this on Wikidata
Cadwyn fynyddEryri Edit this on Wikidata
Map

Enw golygu

Meddylir yn aml mai 'tri' sydd yn elfen gyntaf yr enw Tryfan ac felly mai 'Tri phig' neu 'Tri phwynt' yw'r ystyr', ond mae Ifor Williams yn dangos mai 'try' yn yr ystyr gryfhaol (fel 'tryloyw' er enghraifft) sydd yma. Ystyr yr enw felly yw "mynydd sy'n codi'n uchel iawn, neu un sydd â blaen main iddo".[1] Mae'n enw y ceir enghreifftiau eraill ohono yng Nghymru, e.e. Mynydd Tryfan a Rhostryfan yn Arfon a Mynydd Tryfan yn Sir Ddinbych. Ceir yr enw hefyd am y llysiau Dail y tryfan (Petasites yn Lladin).

Daearyddiaeth golygu

Mae Tryfan yn hynod greigiog ac mae ganddo siâp nodweddiadol iawn. Saif wrth ymyl ffordd yr A5 ger Llyn Ogwen, gyda'r Carneddau yr ochr arall i'r llyn. Mae'n gorwedd o fewn Parc Cenedlaethol Eryri ac fe'i lleolir yn Sir Conwy er 1996 (bu'n rhan o'r hen sir Gwynedd cyn hynny).

 
Tryfan, Eira, Cymylau Isel

Dringo'r mynydd golygu

Mae Tryfan yn un o'r mynyddoedd mwyaf poblogaidd o holl fynyddoedd Eryri, ac ar benwythnosau braf yn yr haf mae cannoedd yn ei ddringo. Dywedir mai Tryfan yw'r unig fynydd yn Eryri (ac unrhyw le yng Nghymru a Lloegr) nad oes modd ei ddringo heb ddefnyddio dwylo yn ogystal â thraed.

Ar y copa mae dwy garreg fawr a fedyddiwyd yn "Adda ac Efa", Sion a Sian neu Y Bugail a'i Wraig, ac mae'n gamp draddodiadol neidio o un i'r llall. Mae'n gallu bod yn gamp beryglus, yn arbennig pan fo'r gwynt yn chwythu'n gryf.[2]

Bywyd gwyllt golygu

Ceir nifer o eifr gwyllt yn pori ar lethrau Tryfan.

Oriel golygu

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Ifor Williams, Enwau Lleoedd, tud. 15.
  2. Adroddiad Blynyddol Tîm Achub Mynydd Ogwen 2001 Archifwyd 2007-10-29 yn y Peiriant Wayback. Ffeil PDF

Dolenni allanol golygu


Y pedwar copa ar ddeg
Yr Wyddfa a'i chriw:

Yr Wyddfa (1085m)  · Garnedd Ugain (1065m)  · Crib Goch (923m)

Y Glyderau:

Elidir Fawr (924m)  · Y Garn (947m)  · Glyder Fawr (999m)  · Glyder Fach (994m)  · Tryfan (915m)

Y Carneddau:

Pen yr Ole Wen (978m)  · Carnedd Dafydd (1044m)  · Carnedd Llywelyn (1064m)  · Yr Elen (962m)  · Foel Grach (976m)  · Carnedd Gwenllian (Garnedd Uchaf) (926m)  · Foel-fras (942m)