Grŵp ethnig yn byw yng ngogledd-orllewin Cenia i'r gorllewin o Lyn Turkana yw'r Turkana.

Turkana

Gyda phoblogaeth o tua 500,000, maent yn ffurfio oddeutu 2% o boblogaeth Cenia. Mae yr iaith Turkana yn aelod o'r Ieithoedd Nilotaidd.

Yn draddodiadol, roedd y Turkana yn byw bywyd nomadaidd, ac yn cadw camelod, gwartheg, defaid a geifr. Yn y blynoeddoedd diwethaf, mae cyfran ohonynt wedi troi i fyw bywyd sefydlog, ac wedi colli ei hanifeiliaid.