Turtur

rhywogaeth o adar
Turtur
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Aves
Urdd: Columbiformes
Teulu: Columbidae
Genws: Streptopelia
Rhywogaeth: S. turtur
Enw deuenwol
Streptopelia turtur
(Linnaeus, 1758)
Ŵy Streptopelia turtur turtur

Mae'r Durtur (Streptopelia turtur) yn aderyn sy'n aelod o deulu'r Columbidae, y colomennod. Mae'n aderyn mudol, yn nythu yn Ewrop ac Asia cyn belled i'r de a Twrci, ac yn gaeafu yn rhan ddeheuol Affrica.

Yn Ewrop, mae ei niferoedd wedi gostwng yn sylweddol yn y blynyddoedd diwethaf, yn rhannol oherwydd newidiadau mewn amaethyddiaeth. Credir fod y niferoedd sy'n cael eu saethu yn rhai o wledydd Môr y Canoldir wrth iddynt fudo hefyd wedi cael effaith.

Bu gostyngiad mawr yn ei niferoedd yng Nghymru dros y blynyddoedd, a dim ond yn y de-ddwyrain, yn Sir Fynwy, y mae'n nythu'n rheolaidd bellach.