Mae twristiaeth hoyw neu dwristiaeth LHDT yn fath o dwristiaeth arbenigol sy'n targedu pobl lesbiaid, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol (LHDT).[1] Gan amlaf, mae'r twristiaid hyn yn agored ynglŷn â'i cyfeiriadedd rhywiol ond gallant fod yn fwy neu'n llai agored pan yn teithio.[2][3]

Twristiaeth hoyw

Prif nodweddion twristiaeth LHDT ydy dinasoedd a gwledydd sy'n ceisio denu twristiaid LHDT; pobl sydd eisiau teithio i gyrchfannau sy'n LHDT-gyfeillgar; pobl sydd eisiau teithio gyda phobl LHDT eraill pan yn teithio waeth beth fo'r cyrchfan a theithwyr sydd eisiau profiadau diwylliannol mewn awyrgylch diogel.[4] Yn Saesneg, defnyddir y term bratiaith gaycation i gyfeirio at wyliau lle ceir elfen amlwg o ddiwylliant LHDT, boed o ran y daith ei hun neu o ran y cyrchfan.[5] Mae'r diwydiant twristiaeth LHDT yn cynnwys asianteithiau teithio, mordeithiau a chwmnïau hysbysebu a hyrwyddo teithiau sy'n gwerthu'r cyrchfannau hyn i'r gymuned hoyw.[4] Yn sgîl y tŵf yn y nifer o bobl LHDT sy'n magu plant ers dechrau'r 200au, gwelwyd cynnydd yn nhwristiaeth LHDT teulu-gyfeillgar, er enghraifft R Family Vacations sy'n cynnwys geithgareddau ac adloniant wedi ei anelu at gyplau hoyw gan gynnwys priodasau hoyw. Cynhaliwyd mordaith gyntaf R Family ar fâd Norwyaidd, sef Norwegian Dawn gyda 1600 o deithwyr yn cynnwys 600 o blant.[6][7]

Mae cwmnïau mawrion yn y diwydiant twrsitiaeth wedi dod yn ymwybodol o'r arian sylweddol sydd ar gael gan y farchnad arbenigol hwn (a elwir hefyd yn "y Bunt Binc"). O ganlyniad mae nifer o gwmnïau wedi gwneud dewis penodol i dargedu'r farchnad hwn.[8] Yn ôl adroddiad y Tourism Intelligence International yn 2000, roedd 10% o dwristiaid rhyngwladol yn hoyw a lesbiad, a olygai fod y gymuned hoyw yn ei chyfanrwydd yn hedfan dros 70 miliwn o weithiau.[9] Disgwylir i'r canran hyn gynyddu wrth i bobl LHDT gael eu derbyn fwyfwy ac wrth i agweddau tuag at leiafrifoedd rhywiol newid.[4] Amcangyfrifwyd i'r farchnad hoyw gyfrannu $55 biliwn yn flynyddol yn 2007.[10]

Cyfeiriadau golygu