Twristiaeth yng Ngoa

Twristiaeth yw prif ddiwydiant Goa: mae'n cyfrif am 12% o'r holl dwristiaid tramorol sy'n mynd i'r India.

Traeth Baga yng Ngoa

Yn gyffredinol, lleolir y twristiaeth yn ardaloedd arfordirol Goa, gyda llai o dwristiaeth i'w weld yn yr ardaloedd mewndirol. Yn 2004, dywedwyd fod dros 2 filiwn o dwristiaid wedi ymweld â Goa, gyda 400,000 ohonynt o wledydd tramor.

Mae gan Goa dau brif dymor twristaidd: y Gaeaf a'r Haf. Yn y Gaeaf, daw twrisitiaid o dramor (Ewrop yn bennaf) i Goa er mwyn mwynhau'r hinsawdd cynnes. Yn yr Haf, (sef y tymor gwlyb yng Ngoa), daw twrisitiaid o ledled India i dreulio'u gwyliau yno.

Mae'r dalaith fechan hon wedi'i lleolu ar arfordir gorllewinol yr India, rhwng ffiniau Maharashtra a Karnataka ac mae'n fwyaf adnabyddus yn fyd-eang fel yr hen diriogaeth Portiwgeaidd ar dir Indiaidd. Gyda dylanwad Portiwgal am 450 o flynyddoedd ac yna dylanwad diwylliant Lladinaidd, mae Goa ychydig yn wahanol i bob rhan arall o'r wlad. Mae talaith Goa yn enwog am ei thraethau godidog, eglwysi a themlau. Mae'r Eglwys Gadeiriol Bom Jesus yn atyniad enwog arall yng Ngoa. Mae Ffort Aguada hefyd yn atyniad mawr i dwristiaid. Yn ddiweddar, agorwyd Amgueddfa Cŵyr am hanes, diwylliant a threftadaeth Indiaidd, yn Hen Goa.

Traethau golygu

Un rheswm i ymweld â Goa yw'r traethau. Ar hyd y 125 KM o arfordir, ceir nifer fawr o draethau. Rhennir y traethau hyn yn Draethau De Goa a Thraethau Gogledd Goa. Po fwyaf i'r gogledd neu'r de yr ewch, mwyaf anghysbell yw'r traethau. Fodd bynnag, ceir traethau hynod boblogaidd fel Baga ac Anjuna, sydd â stondinau bychain sy'n gwerthu bwyd ffres o'r mor a diodydd. Mae rhai o'r stondinau a'r tai bwyta hyn yn cynnal digwyddiadau arbennig er mwyn denu mwy o gwsmeriaid.

Traethau yng Ngogledd Goa:

Arambol
Morjim
Chapora
Vagator
Anjuna
Baga
Calangute
Candolim
Sinquerim
Bambolim
Miramar
Dona Paula

Traethau yn Ne Goa:

Bogmalo
Majorda
Colva
Benaulim
Varca
Cavelossim
Mobor
Canaguinim
Agonda
Palolem

Gweler hefyd golygu

Dolenni allanol golygu