Ffurf o harddu'r corff dynol drwy ei dyllu neu drwy agor y croen yw tyllu'r corff, ac fel arfer rhoddir tlws, gemwaith fel modrwy neu ddarn o fetel yn y twll i'w gadw rhag cau, ac fel addurn, h.y. 'tlysau treiddiol'. Y rhannau o'r corff a dyllir gan amlaf yw'r clustiau, y tafod, y trwyn, y gwefusau, y tethi, y bogail, a'r organau cenhedlu (yr organnau rhyw).

Tyllu'r corff
Mathbody modification, hole Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Merch 'Bambara' o Orllewin Affrica yn gwisgo clustdlysau
Merch o Myanmar gyda chlustdlysau traddodiadol.

Arferid tyllu'r corff ers o leiaf 5,000 o flynyddoedd, ac mae rhai o'r olion dynol hynaf a ganfyddwyd hyd yma yn cynnwys tlysau a arferid eu rhoi drwy'r croen. Yn eu plith cafwyd hyd i fodrwy trwyn a wnaed tua 1,500 CC. Mae'r arferiad o dyllu'r gwefusau a'r tafod i'w weld gan mwyaf yng nghyfandiroedd Affrica ac America. Mae'r dystiolaeth hynaf o dlysau treiddiol tethi a'r organau rhyw i'w chael yng nghyfnod y Rhufeiniaid ac yn India c. 320 - 550 C.C. Sonir am glustdlysau yn y Beibl, er enghraifft, yn Genesis 35:4,[1] ac yn Exodus 32:3.[2] Ychydig a wyddom am dyllu'r bogail, fodd bynnag, arferiad a fu'n mynd a dod, i mewn ac allan o ffasiwn. Ers yr Ail Ryfel Byd, mae ei boblogrwydd wedi cynyddu, yn enwedig yn y Gorllewin, gyda phenllanw'r ffasiwn, o bosib, i'w weld yn y 1990au.

Ceir amryw o resymau pam fod pobol yn dymuno tyllu'r corff. Mae rhai'n gwneud hynny am resymau crefyddol neu ysbrydol ac eraill er mwyn atgyfnerthu eu hunan-fynegiant, eu hunigolrwydd, rhesymau esthetig neu resymau rhywiol.[3] Gall y tyllu hwn, felly, doddi'r person o fewn diwylliant arbennig neu fod yn rhan o arfwisg y rebel gwrthsefydliad. - 62% yn ôl arolwg Clinical Nursing Research yn 2001. Mae llawer o sefydliadau fel ysgolion neu weithleoedd yn eu gwahardd, ac felly'n ysgogi'r person ifanc i wrthryfela drwy eu gwisgo.

Ceir llawer o reolau a chyfreithiau heddiw sy'n ceisio rheoli tyllu'r corff, sy'n cynnwys oedran y person a glendid y siop tyllu. Yng Nghymru ac yn yr Alban, cafwyd deddfwriaeth sy'n atal pobl ifanc o dan 16 oed rhag tyllu'r corff, yn Nhalaith Idaho, mae'r oedran yn 14.[4]

Ceir offer 'saff' a grewyd yn arbennig ar gyfer y gwaith o dorri drwy'r croen a hylifau ac offer er mwyn sicrhau fod yr agoriad yn gwella (neu fendio), yn parhau'n lân er mwyn lleihau'r sgil-effeithiau niweidiol.[5] Fel arfer mae'n cymryd o leiaf mis i groen yr organnau rhyw fendio a dwy flynedd i groen y bogail. Mae rhwng 10-20% o'r toriadau yn troi'n heintus, fel arfer oherwydd bacteria, ond pur anaml y ceir niwed parhaol.[6]

Cyfeiriadau golygu