Tynged Amlwg (Saesneg: Manifest Destiny) yw'r dywediad a ddefnyddid yn y 19g i fynegi'r syniad fod yr Unol Daleithiau wedi'i thynghedu i ehangu o arfordir y Cefnfor Iwerydd hyd at y Cefnfor Tawel; o bryd i'w gilydd ers hynny mae wedi cael ei ddefnyddio yn ogystal i gefnogi neu gyfiawnhau ychwanegiadau tiriogaethol eraill.

Tynged Amlwg yn rhith ffigwr alegorïaidd "Cynnydd Americanaidd" yn arwain ymsefydlwyr dros y Gwastatiroedd Mawr i'r Gorllewin; mae'r brodorion a'r anifeiliaid gwyllt yn ffoi rhagddynt mewn ofn a daw'r rheilffordd, amaeth a diwydiant ar eu hôl.

Roedd hyrwyddwyr a chefnogwyr Tynged Amlwg yn credu nid yn unig fod ehangiad yr Unol Daleithiau'n beth da ynddo'i hun ond hefyd ei fod yn "amlwg" neu eglur ac yn anorfod, fel "tynged" rhagosodedig. Slogan gan y Democratiaid yn y cyfnod 1845-1855 oedd "Tynged Amlwg", ond ni chafodd ei dderbyn gan y Chwigiaid a'r Gweriniaethwyr yr adeg honno. Yn ogystal â bod yn esboniad neu gyfiawnhad am ymestyn yr Unol Daleithiau i gyfeiriad y gorllewin (a hynny ar draul Sbaen a Mecsico ar y naill law a'r brodorion Americanaidd ar y llall), yr oedd yn ideoleg a dogma a osododd y weithred honno ar lefel rhagluniaeth.

Un o'r cyntaf i ddefnyddio'r ymadrodd oedd Andrew Jackson, arweinydd y Democratiaid ac arlywydd yr Unol Daleithiau, dyn a wnaeth ei enw yn ymladd llwythau brodorol y "Gorllewin Gwyllt" gan ennill iddo'i hun y llysenw "Cyllell Finiog" gan y brodorion.[1] O 1845 ymlaen hyrwyddodd Jackson y rhaglen o feddiannu neu gipio yr hyn sydd erbyn heddiw yn hanner gorllewinol yr Unol Daleithiau (Tiriogaeth Oregon, Texas, ac arfordir y gorllewin). Un o ganlyniadau'r polisi oedd y rhyfeloedd ar y llwythau brodorol 1865-1890. Gwelodd y term adfywiad yn yr 1890au, y tro yma gan gefnogwyr Gweriniaethol, fel cyfiawnhad damcaniaethol am ehangu tiriogaeth a rheolaeth UDA y tu allan i Ogledd America (Hawaii a Chanolbarth America, e.e. Puerto Rico). Roedd rhai pobl fel Abraham Lincoln yn gwrthwynebu hyn ac yn galw am ehangu mewnol trwy foderneiddio'r wlad fel yr oedd hi. Ond serch hynny, Lincoln ei hun a basiodd y deddfau a adnabyddir fel yr "Homestead Acts" a chwareodd ran hanfodol yn ymestyniad y Taleithiau i'r gorllewin trwy gynnig tractau mawr o dir yn rhad ac am ddim i ymsefydlwyr o'r dwyrain - a hynny ar dir a oedd yn perthyn i'r brodorion dan gyfres o gytundebau rhyngddynt â llywodraeth yr Unol Daleithiau.

Er i'r term suddo'n dawel i'r cefndir o ran ei ddefnydd gan y wladwriaeth ar ddechrau'r 20g, cred nifer o sylwebyddion gwleidyddol fod sawl agwedd ar Dynged Amlwg i'w gweld yng nghred Americanwyr - ar y de a'r chwith yn gyffredinol - fod gan yr Unol Daleithiau "genhadaeth" i fynd allan a hyrwyddo ac amddiffyn democratiaeth (neu fuddianau America yn ôl eu gwrthwynebwyr) ledled y byd.

Cyfeiriadau golygu

  1. Dee Brown, Bury My Heart at Wounded Knee (1970). Tud. 8