Tywysogaeth Orange

Tywysogaeth hanesyddol yn ne Ffrainc oedd Tywysogaeth Orange (Ffrangeg: Principauté d'Orange). Roedd yn gyfangwbl o fewn Profens. Y brifddinas oedd dinas Orange.

Tywysogaeth Orange
Enghraifft o'r canlynolTywysogaeth Edit this on Wikidata
Daeth i ben1713 Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1163 Edit this on Wikidata
Map
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Arfbais Tywysogaeth Orange

Ffurfiwyd y dywysogaeth yn 1163, pan roddodd yr Ymerawdwr Glân Rhufeinig Ffrederic I annibyniaeth o fewn yr ymerodraeth i Sir Orange. Daeth y dywysogaeth yn rhan o diriogaethau gwasgaredig brenhinllin Orange-Nassau wedi i Wiliam I etifeddu teitl Tywysog Orange yn 1544. Dan Gytundeb Utrecht yn 1713 daeth y dywysogaeth yn rhan o Ffrainc.