Mynydd yn Nhwrci yw Uludağ (a elwir hefyd yn Keşiş Dağı, 'Mynydd y Mynachod'). Mae'n gorwedd 2543 medr uwch lefel y môr, sy'n ei wneud y mynydd uchaf yng ngorllewin Twrci. Ystyr ei enw yw 'Mynydd Uchel' (ulu "uchel, dyrchafedig" + dağ "mynydd"). Mae'n gorwedd tua 30 km i'r de o ddinas Bursa ac mae'n nodi ffin talaith Bursa.

Uludağ
Mathmynydd, atyniad twristaidd Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirBursa Edit this on Wikidata
GwladTwrci Edit this on Wikidata
Uwch y môr2,542 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau40.0705°N 29.222°E Edit this on Wikidata
Amlygrwydd1,504 metr Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethImportant Bird Area Edit this on Wikidata
Manylion

Mae prif grib y mynydd yn ymestyn am 15 km gyda lled o hyd at 3 km. Enw'r copa uchaf yw 'Kartaltepe' ("Copa'r Eryr"). Ceir canolfannau sgïo ar ei lethrau.

Yn yr Henfyd, adnabyddid Uludağ fel 'Olympus Mysia' neu 'Olympus Bithynia'. Yng nghyfnod yr Ymerodraeth Fysantaidd, roedd ei lethrau yn gartref i sawl cymuned o fynachod cynnar yn arfer meudwyaeth ascetig.