Umm Kulthum

actores a aned yn 1898

Cantores fawr y byd Arabaidd oedd Umm Kulthum. Sillafiad arall ar ei henw yw Oum Kalsoum (hefyd Om Kalthoum a sillafiadau eraill). (Yn ôl yr Arabeg أم كلثوم y cynaniad yw "ym cylthwm", a gellir dadlau felly fod y sillafiaeth gyntaf yn fwy cywir, ond mae'r ynganiad ar lafar yn amrywio rywfaint yn ôl gwlad a rhanbarth hefyd). Eu henw llawn oedd Umm Kulthum Ibrahim al-Sayyid al-Baltaji. Ganwyd hi yn Tamay-az-Zahayra, rhyw 100 km. (60 milltir) i'r gogledd o Cairo yn yr Aifft. Dydy dyddiad eu geni ddim yn sicr, efallai 4 Mai, 1904. Bu farw yn Cairo ar y 3 Chwefror, 1975.

Umm Kulthum
Ganwydفاطمه ابراهيم السيد البلتاجى Edit this on Wikidata
31 Rhagfyr 1898 Edit this on Wikidata
Tamay Ez-Zahayra Edit this on Wikidata
Bu farw3 Chwefror 1975 Edit this on Wikidata
Cairo Edit this on Wikidata
Label recordioEMI Classics Edit this on Wikidata
DinasyddiaethKhedivate of Egypt, Sultanate of Egypt, Brenhiniaeth yr Aifft, Republic of Egypt, Y Weriniaeth Arabaidd Unedig, Yr Aifft Edit this on Wikidata
Galwedigaethcanwr, actor, actor ffilm Edit this on Wikidata
Arddullmusic of Egypt Edit this on Wikidata
Math o laiscontralto Edit this on Wikidata
PriodHassan Alhifnawy Edit this on Wikidata
Gwobr/auUrdd y Rhinweddau, Supreme Order of the Renaissance, Order of the Republic, Urdd Al Rafidain, Order of Civil Merit (Syria), Order of the Republic, National Order of the Cedar Edit this on Wikidata

Ei llysenw yn Arabeg yw "as-sit", "Y Foneddiges". Gelwir hi "Y Pedwerydd Byramid", "Seren y Dwyrain" a "Duwies y Gân Arabeg" hefyd. Mae hi wedi gwerthu dros 120 miliwn o recordiau. Mae ei cherddoriaeth yn gyfarwydd i bobl o bob oedran ar draws y byd Arabaidd ac yn cyfuno elfennau clasurol a dylanwadau newydd ar y pryd.

Disgograffeg ddethol golygu

Fel yn achos ei henw, sylwer fod trawslythreniad y teitlau Arabeg yn y rhestr hon yn amrywio. Mae eu caneuon wedi cael eu rhyddhau gan sawl cwmni dros y blynyddoedd a daw argraffiadau a chasgliadau newydd allan o hyd.

  • Amal Hayati ("Gobaith fy mywyd")
  • Enta Omri ("Ti yw fy nghariad")........ maqam kurd
  • Fat el Mead ("Rhy Hwyr") .......maqam sikah
  • Hagartek ("Gadewais Ti")
  • Alif Leila wa Leila ("Mil ac Un o Nosweithiau")
  • Sirat el Hob ("Cân Cariad").......maqam sikah
  • Arouh li Meen ("At bwy ddylswn i droi?").......maqam rast
  • Raq il Habeeb ("Atebodd fy Nghariad")
  • Lessa Faker ("Ti'n cofio o hyd").......maqam ajam
  • Hathehe Laylati ("Dyma fy noson")......maqam bayyati
  • Al Atlal ("Yr Adfeilion")......maqam huzam
  • Betfaker fi Meen ("Am bwy wyt ti'n feddwl?").....maqam bayati
  • Hayarti Qalbi Ma'ak ("Rwyt ti wedi drysu fy nghalon")......maqam nahwand
  • El Hobb Kolloh ("Cariad i gyd").......maqam rast
  • Ental Hobb ("Ti yw Cariad").......maqam nahwand
  • Leilet Hobb ("Noson o garu")
  • Othkorene ("Cofia fi")
  • Yali Kan Yashqiq Anini
  • Es'al Rouhak ("Gofynna dy hun")
  • Enta Fein Well Hobbi Fein ("Ble wyt ti a ble mae Cariad?")......maqam bayyati
  • Dhikrayatun (Qessat Hobbi)
  • Lel Sabr Hedod ("Mae terfyn i amynedd")......maqam sikah
  • Baeed Anak ("Hebot ti").......maqam bayyati
  • Hadeeth el Rouh ("Ymgom yr Enaid")......maqam kurd
  • Gharibun Ala Bab el Raga
  • Fakarouni ("Cefais fy argoffa").......maqam rast
  • Zalamna El Hob ("Pechod yn erbyn Cariad")
  • Ya Zalemny
  • We Maret El-Ayam ("Aeth y dyddiau heibio").......maqam nahwand
  • Hobb Eih ("Pa gariad?").....maqam bayyati
  • Rubaiyat Al-Khayyam ("Penillion Omar Khayyam").......maqam rast
  • Ya Msaharny ("Ti sy'n cadw fi'n effro y nos")

Dolen allanol golygu