Unbennaeth Epirus

Sefydlwyd Unbennaeth Epirus (Groeg: Δεσποτάτο της Ηπείρου, yn 1205, wedi i'r Ymerodraeth Fysantaidd ymrannu'n nifer o ddarnau yn dilyn cipio dinas Caergystennin.

Unbennaeth Epirus, yr Ymerodraeth Ladin, Ymerodraeth Nicea ac Ymerodraeth Trebizond yn 1204.

Cipiwyd Caergystennin gan y croesgadwyr ar anogaeth Fenis yn ystod y Bedwaredd Groesgad yn 1204, a sefydlasant hwy eu hymerodraeth ei hunain, yr Ymerodraeth Ladin, yng Nghaergystennin a rhai o diriogaethau'r Ymerodraeth Fysantaidd. Un o'r rhannau yr ymrannodd yr Ymerodraeth Fysantaidd iddynt oedd Unbennaeth Epirus, yng ngogledd ddwyrain Groeg. Sefydlwyd yr Unbennaeth gan Mihangel I Komnenos Doukas, cefner yr ymerodron Bysantaidd Isaac II Angelos ac Alexios III Angelos. Ymfudodd nifer o Roegiad amlwg o Gaergystennin i Epirus, ond nid ystyriai Patriarch Caergystennin, Ioan X Kamateros, fod Epirus yn olynydd cyfreithiol i'r Ymerodraeth Fysantaidd, a dewisodd fynd i Ymerodraeth Nicea yn hytrach nag Epirus. Ymateb Mihangel oedd cydnabod awdyrdod y Pab yn hytrach na'r Patriarch.

Ar y cyntaf bu Epirus yn llwyddiannus yn filwrol, ond wedi i Ymerodraeth Nicea adfeddiannu Caergystennin ac adfer yr Ymerodraeth Fysantaidd daeth dan bwysau cynyddol. Yn 1337 ymosododd yr ymerawdwr Bysantaidd Andronikos III Palaiologos ar Epirus, ac ildiwyd yr Unbennaeth iddo. Parhaodd y teil despotes i gael ei ddefnyddio, ond yn raddol llyncwyd ei thiriogaeth gan yr Ymerodraeth Otomanaidd.

Llywodraethwyr Epirus golygu

Brenhinllin Doukas golygu

Brenhinllin Orsini golygu

Brenhinllin Nemanjić golygu

Brenhinllin Buondelmonti golygu

Brenhinllin Tocco golygu