Yr Undeb Affricanaidd

(Ailgyfeiriad o Undeb Affricanaidd)

Sefydliad rhyngwladol yn cynnwys 53 gwlad yn Affrica yw'r Undeb Affricanaidd (Ffrangeg: Union africaine, a dalfyrir i UA; Saesneg: African Union a dalfyrir i AU). Sefydlwyd yr Undeb Affricanaidd ar 9 Gorffennaf 2002, fel olynydd i Gymuned Economaidd Affrica a'r Sefydliad Undod Affricanaidd. Mae ei bencadlys yn Addis Ababa, Ethiopia.

Yr Undeb Affricanaidd
Enghraifft o'r canlynolsefydliad rhanbarthol, continental union, sefydliad rhyngwladol Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu9 Medi 1999 Edit this on Wikidata
Rhagflaenwyd ganOrganisation of African Unity Edit this on Wikidata
Yn cynnwysRegions of the African Union Edit this on Wikidata
Pennaeth y sefydliadChairperson of the African Union Edit this on Wikidata
Isgwmni/auAfrica Centres for Disease Control and Prevention Edit this on Wikidata
PencadlysAddis Ababa, Johannesburg Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://au.int Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Nôd yr Undeb Affricanaidd yw cydlynu cyfandir Affrica yn wleidyddol ac yn economaidd, i hyrwyddo polisïau ar y cyd ar faterion o ddiddordeb i Affrica; i sicrhau heddwch a sefydlogrwydd ac i hyrwyddo democratiaeth, llywodraeth dda a hawliau dynol.

Eginyn erthygl sydd uchod am Affrica. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato