Undeb y Maghreb Arabaidd
Sefydlwyd Undeb y Maghreb Arabaidd (Arabeg: اتحاد المغرب العربي Ittihad al-Maghrib al-Araby, Ffrangeg: Union du Maghreb arabe) yn 1989 fel cytundeb masnach pan-Arabaidd gyda'r nod o hyrwyddo undeb economaidd a gwleidyddol yn y Maghreb Mawr yng ngogledd-orllewin Affrica. Cyfeirir at yr undeb fel UMA fel rheol.
Enghraifft o'r canlynol | sefydliad rhynglywodraethol |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 1989 |
Gwefan | https://maghrebarabe.org/ |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Ceir pum aelod-wladwriaeth, sef Algeria, Libia, Mauritania, Moroco, a Tiwnisia. Lleolir y pencadlys yn Rabat, prifddinas Moroco.
Y problemau gwleidyddol rhanbarthol mwyaf sy'n wynebu'r Undeb yw'r sefyllfa yn nhiriogaeth dadleuol Gorllewin Sahara, a reolir gan Moroco ond a hawlir gan fudiadau dros annibyniaeth, a'r tensiynau rhwng Moroco ac Algeria sydd wedi arwain at gau'r ffin rhwng y ddwy wlad a llesteirio datblygiad cysylltiadau cludiant rhanbarthol trwy Algeria.
Yn 2023, mae'r prosiect arian sengl yn yr ardal yn parhau i fod yn dechnegol ymarferol ond yn wleidyddol anfeidrol.[1].
Aelodau golygu
- Algeria (1989)
- Libia (1989)
- Mauritania (1989)
- Moroco (1989)
- Tiwnisia (1989)
Yn 16fed sesiwn gweinidogion tramor UMA, a gynhaliwyd ar 12 Tachwedd 1994 yn Algiers, gwnaeth yr Aifft gais ffurfiol i ddod yn aelod.
Gweler hefyd golygu
Dolenni allanol golygu
- (Ffrangeg) (Saesneg) Gwefan swyddogol