United Liberation Front of Assam

Mudiad arfog sy'n galw am annibyniaeth i dalaith Assam yng ngogledd-ddwyrain India yw'r United Liberation Front of Assam neu'r ULFA (enw Saesneg "swyddogol"). Mae'n defnyddio tactegau herwfilwrol ac ymosodiadau terfysgol i'r perwyl hwnnw.

Mae'r ULFA yn defnyddio gwersyllfeydd wedi'u cuddio yn fforestydd mawr Assam a thros y ffin ym Mangladesh. Cafodd gryn llwyddiant i ddechrau gan orfod Byddin India i yrru nifer o filwyr i'r ardal. Cafwyd Operation Rhino yn 1991 - cyfres o ymosodiadau mawr gan y fyddin yn erbyn y gwersyllfeydd - ac am gyfnod gwanhawyd effeithlonrwydd yr ULFA, ond mae ymosodiadau terfysgol ganddynt yn parhau.

Gwrthwynebir ULFA o fewn Assam gan y Bodo Liberation Tiger Force sy'n galw am rannu Assam 50:50 i greu mamwlad i'r bobl Bodo.

Eginyn erthygl sydd uchod am India. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.