Roedd Kitagawa Utamaro (Siapaneg 喜多川 歌麿) (tua 175331 Hydref 1806) yn arlunydd a gwneuthuriwr printiau bloc Siapanëaidd a ystyrir yn un o'r arlunwyr Ukiyo-e pennaf.

Utamaro
Ganwyd北川 勇助 Edit this on Wikidata
1753, 1754 Edit this on Wikidata
Kawagoe, Edo Edit this on Wikidata
Bu farw31 Hydref 1806 Edit this on Wikidata
Edo Edit this on Wikidata
DinasyddiaethJapan Edit this on Wikidata
Galwedigaethukiyo-e artist, arlunydd, arlunydd graffig Edit this on Wikidata
Adnabyddus amMoonlight Revelry at Dozo Sagami, Three Beauties of the Present Day Edit this on Wikidata
Arddullbijinga Edit this on Wikidata
Prif ddylanwadTorii Kiyonaga Edit this on Wikidata
Mudiadukiyo-e Edit this on Wikidata
llofnod
Kitagawa Utamaro, "Blodau Edo: Merch ifanc yn canu i gyfeilaint shamisen", (tua 1800)

Mae Utamaro yn adnabyddus yn neilltuol am ei astudiaethau hynod o ferched, llawn awyrgylch, a elwir bijinga. Cyhoeddoedd yn ogystal nifer o luniau o fyd natur, yn arbennig ar gyfer cyfres o lyfrau darluniedig am drychfilod. Cyrhaeddodd ei waith Ewrop yn ail hanner y 19g a chafodd ddylanwad mawr ar arlunwyr Ffrainc a gwledydd eraill.

Ychydig sy'n hysbys am fywyd personol Utamaro a'i yrfa ac mae'r hanes yn amrywio yn ôl ei ffynhonnell. Cafodd ei eni naill ai yn Edo (dinas Tokyo heddiw), Kyoto, neu Osaka, neu mewn dref ranbarthol anhysbys, tua'r flwyddyn 1753. Yn ôl traddodiad arall cafodd ei eni ynYoshiwara, ardal bleser enwog Edo, yn fab i berchennog tŷ te. Ei enw bedydd oedd Kitagawa Ichitaro.

Yn fachgen ifanc aeth yn brentis i'r arlunydd Toriyama Sekien. Arosodd efo Seiken hyd farwolaeth yr arlunydd yn 1788 (honnir un traddodiad fod Utamaro yn fab iddo). Newidiodd ei enw i Utamaro, fel oedd yr arfer, ac ymddengys iddi briodi hefyd, er na chafodd plant.

Mae Utamaro yn enwog am ei luniau sensitif a meistolgar o ferched, yn arbennig merched heirdd Yoshiwara. Mae ei luniau o drychfilod yn nodweddiadol o'i allu i ddal manylion ei wrthrych a'i ddangos mewn golau newydd. Yn ogystal roedd yn cynhyrchu nifer o brintiau erotig Shunga - byddai rhai yn dweud eu bod yn "bornograffig", ond roedd chwaeth yr oes yn wahanol - ar gyfer y farchnad boblogaidd.

Cyfresi lluniau print (detholiad) golygu

 
Yr arwr ifanc Kintaro a'i fam ([1] Archifwyd 2007-09-26 yn y Peiriant Wayback.)

Dyma'r prif gyfresi print a wnaeth Utamaro. Sylwer fod "blodau" isod yn golygu merched yn hytrach na phlanhigion ac mae sefydliadau braidd yn amheus yn Yoshiwara oedd y "Tai Gwyrddion":

  • Cerddi Dethol (1791-1792)
  • Deg math o gorff benywaidd (1792-1793)
  • Blodau Edo (1792-1793)
  • Deg astudiaeth ddysgedig o Ferched (1792-1793)
  • Blodeugerdd: Pennod Serch (1793-1794)
  • Eira, Lleuad a Blodau'r Tai Gwyrddion (1793-1795)
  • Oriel Merched Delaf y Dydd (1794)
  • Deuddeg Awr y Tai Gwyrddion (1794-1795)
  • Merched mwyaf poblogaidd yr Oes (1795-1797)
  • Oriel Cariadon Nwydus (1797-1798)
  • Deg math o gorff benywaidd (II) (1802)

Llyfryddiaeth golygu

  • Shugo Asano a Timothy Clark, The Passionate Art of Kitagawa Utamaro (Llundain, 1995). Astudiaeth safonol.
  • Jack Hillier, Utamaro: Color Prints and Paintings (Llundain, 1961)
  • Tadashi Kobayashi (cyf. Mark A. Harbison), Great Japanese Art: Utamaro (Tokyo, 1982)
  • Muneshige Narazaki a Sadao Kikuchi (cyf. John Bester), Masterworks of Ukiyo-E: Utamaro (Tokyo, 1968)

Cysylltiadau allanol golygu