Math o orchymyn gan lys yn y Deyrnas Unedig i wahardd cyhoeddi manylion penodol yw uwch-waharddeb. Ni chaniateir cyhoeddi bodolaeth yr uwch-waharddeb ychwaith. Ym Mai 2011 cyhoeddodd Private Eye eu bod yn ymwybodol o 53 o uwch-waharddebau a gwaharddebau preifatrwydd dienw.[1]

Ym Medi 2009 enillodd cyfreithwyr Carter-Ruck uwch-waharddeb ar gyfer y masnachwr olew Trafigura, gan wahardd y wasg rhag rhoi manylion am adroddiad mewnol gan Trafigura ar sgandal dros ddadlwytho gwastraff gwenwynig yn Arfordir Ifori yn 2006. Daeth bodolaeth yr uwch-waharddeb i'r amlwg pan gafodd ei gyfeirio ato yn Senedd y Deyrnas Unedig dan fraint seneddol. Cafodd y waharddeb ei newid fel gall y cwestiwn a ofynnwyd yn y Senedd gael ei ddatgelu yn y wasg.

Ar 26 Ebrill 2011, yn dilyn achos gyfreithiol gan Ian Hislop, golygydd Private Eye, cafodd cyfweliad â'r newyddiadurwr a chyflwynydd teledu Andrew Marr ei gyhoeddi yn y Daily Mail gan ddatgelu iddo ennill uwch-waharddeb yn 2008 i atal y wasg rhag ysgrifennu am berthynas y cafodd tu allan i'w briodas.[2]

Ym Mai 2011 cafodd nifer o fanylion am uwch-waharddebau eu datgelu gan gyfrif ar y wefan Twitter. Er fod rhai o'r manylion yn anghywir, cafodd eraill eu cadarnháu gan gyfryngau y tu allan i'r DU, ac yn debyg gan y ffaith bu cyfryngau torfol yn y DU yn sensro y rhan fwyaf o'r cyhuddiadau. Bu pêl-droediwr a adnabwyd gan y llythrennau CTB yn dwyn achos llys yn sgîl datgeliad ei berthynas â'r fodel Imogen Thomas ar y we; gweler CTB v News Group Newspapers.

Cyfeiriadau golygu

  1. Private Eye, rhifyn 1288, 13-26 Mai 2011.
  2. (Saesneg) BBC's Andrew Marr 'embarrassed' by super-injunction. BBC (26 Ebrill 2011).
Mae'r erthygl hon yn cynnwys term neu dermau sydd efallai wedi eu bathu'n newydd sbon: uwch-waharddeb o'r Saesneg "superinjunction". Gallwch helpu trwy safoni'r termau.