Uwchgynhadledd yr G8, 2013

Cynhaliwyd 39ain Uwchgynhadledd yr G8 o 17 i 18 Mehefin 2013 yn Lough Erne Resort, Lough Erne, Gogledd Iwerddon. Cyfarfu arweinwyr yr wyth gwlad sy'n aelodau'r G8 – Prif Weinidog y Deyrnas Unedig David Cameron, Arlywydd Ffrainc François Hollande, Canghellor yr Almaen Angela Merkel, Prif Weinidog yr Eidal Enrico Letta, Arlywydd Rwsia Vladimir Putin, Arlywydd yr Unol Daleithiau Barack Obama, Prif Weinidog Canada Stephen Harper, a Phrif Weinidog Japan Shinzo Abe – ynghyd â Llywydd y Comisiwn Ewropeaidd José Manuel Barroso a Llywydd y Cyngor Ewropeaidd Herman Van Rompuy, a gwahoddwyd hefyd Taoiseach Gweriniaeth Iwerddon Enda Kenny yn ei swydd fel cadeirydd Llywyddiaeth Cyngor yr Undeb Ewropeaidd.[1]

Enrico Letta, Prif Weinidog yr Eidal, a Barack Obama, Arlywydd yr Unol Daleithiau, yn cwrdd yn Lough Erne ar ddiwrnod cyntaf yr uwchgynhadledd.

Gosododd lywodraeth y Deyrnas Unedig tri phrif bwnc i'w trafod: masnach, trethiant, ac amlygrwydd (transparency).[2] Ar agenda'r uwchgynhadledd hefyd mae Rhyfel Cartref Syria.[3][4]

Bu feirniadaeth yng Ngogledd Iwerddon o'r gost o £50 miliwn am ddiogelwch yr uwchgynhadledd.[5] Yn debyg i nifer o'r uwchgynadleddau cynt daeth brotestwyr i'r ardal i wrthdystio'n erbyn yr G8, gan gynnwys 1,500 o bobl a fynychodd rali ym Melffast ar 15 Mehefin.[6] Codwyd "cylch dur" o gwmpas y cyrchfan ar gost o £4 miliwn a danfonwyd 8,000 o heddweision i blismona'r uwchgynhadledd.[7]

Cyfeiriadau golygu

  1. (Saesneg) Enda Kenny says G8 summit an Irish opportunity. RTÉ (16 Mehefin 2013). Adalwyd ar 18 Mehefin 2013.
  2. (Saesneg) UK Presidency of G8 2013. gov.uk. Adalwyd ar 18 Mehefin 2013.
  3. (Saesneg) G8 leaders seek agreement on Syria. BBC (18 Mehefin 2013). Adalwyd ar 18 Mehefin 2013.
  4. (Saesneg) Castle, Stephen (18 Mehefin 2013). Group of 8 Leaders Press Russia on Syria. The New York Times. Adalwyd ar 18 Mehefin 2013.
  5. (Saesneg) NI Secretary Theresa Villiers defends G8 security cost. BBC (18 Mehefin 2013). Adalwyd ar 18 Mehefin 2013.
  6. (Saesneg) Lough Erne ring of steel as protesters and world leaders gather for G8 summit. The Daily Telegraph (17 Mehefin 2013). Adalwyd ar 18 Mehefin 2013.
  7. (Saesneg) Addley, Esther (18 Mehefin 2013). G8 organisers spend £50m on security but protesters stay away. The Guardian. Adalwyd ar 18 Mehefin 2013.

Dolenni allanol golygu

 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:
Rhagflaenydd:
Uwchgynhadledd yr G8, 2012
Uwchgynhadledd yr G8
2013
Olynydd:
Uwchgynhadledd yr G8, 2014