Gyrrwr beiciau modur proffesiynol yw Valentino Rossi (ganed Urbino, 16 Chwefror 1979)[1]. Mae wedi ennill pencampwriaeth Moto GP aml i waith. Mae'n un o'r gyrwyr beiciau modur mwyaf llwyddiannus erioed wedi iddo ennill saith o bencampwriaethau'r Byd. Mae'n un o'r bobl sydd yn ennill y mwyaf o arian mewn chwaraeon gydag amcangyfrifon iddo ennill $34 miliwn yn 2007.

Valentino Rossi
FfugenwIl Dottore, Rossifumi, The Doctor Edit this on Wikidata
Ganwyd16 Chwefror 1979 Edit this on Wikidata
Urbino Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethyr Eidal Edit this on Wikidata
Galwedigaethrasiwr motobeics, gyrrwr rali Edit this on Wikidata
TadGraziano Rossi Edit this on Wikidata
PartnerLinda Morselli Edit this on Wikidata
Gwobr/auMotoGP Hall of Fame Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.valentinorossi.com Edit this on Wikidata
Chwaraeon
Tîm/auYamaha Motor Racing, Ducati MotoGP Team, Yamaha Motor Racing, Repsol Honda, Sepang Racing Team Edit this on Wikidata
Gwlad chwaraeonyr Eidal Edit this on Wikidata
llofnod

Gan ddilyn ei dad, Graziano Rossi, dechreuodd Valentino rasio yn 1996 i dîm Aprilia yn y categori 125cc, ac enillodd ei Bencampwriaeth Byd y flwyddyn ganlynol. Wedyn symudodd i fyny i gategori 250cc, hefyd gyda Aprilia, ac enillodd Bencampwriaeth y Byd yn 1999. Enillodd Bencampwriaeth y Byd 500cc gyda Honda yn 2001, pencampwriaeth y Byd Moto GP yn 2002 a 2003 gyda Honda, hefyd enillodd y bencampwriaeth yn 2004 a 2005 ar ôl symud o Honda i Yamaha.

Cyfeiriadau golygu

  1. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-06-24. Cyrchwyd 2008-09-05.


   Eginyn erthygl sydd uchod am Eidalwr neu Eidales. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.