Ffordd Rufeinig yn cysylltu dinas Rhufain ag arfordir dwyreiniol yr Eidal yw'r Via Flaminia. Gyda'r Via Latina, y Via Salaria a'r Via Appia, roedd yn un o'r ffyrdd pwysicaf oedd yn cysylltu'r brifddinas a'r gweddill o'r ymerodraeth.

Via Flaminia
Mathffordd Rufeinig, adeilad Rhufeinig Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Gwladyr Eidal Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau42.73033°N 12.58681°E Edit this on Wikidata
Map

Adeiladwyd y ffordd gyntaf gan y censor Gaius Flaminius yn 220 CC. Yn wreiddiol, roedd y ffordd yn arwain o ddinas Rhufain tros yr Apenninau i Ariminum (Rimini heddiw).

Roedd yn dechrau yn Rhufain ger y Porta del Popolo ym Mur Aurelian, ac yn croesi afon Tiber tros Bont Milvius. Roedd yn arwain trwy Umbria, lle roedd yn croesi afon Nrea ger Narni ar draws y Ponte Cardona, y bont fwyaf a adeiladodd y Rhufeiniaid erioed. Wedi croesi'r Appeninau, roedd yn cyrraedd yr arfordir ger Fano, yna'n dilyn yr arfordir i Rimini, trwy'r hyn sy'n awr yn rhanbarth Emilia-Romagna.

Y via Flaminia (mewn porffor)