Swyddog yn y fyddin Norwyaidd a chydweithredwr â'r Natsïaid oedd Vidkun Quisling, neu Abraham Lauritz Jonsson (18 Gorffennaf 188724 Hydref 1945). Mae ei gyfenw wedi tyfu'n llysenw am "fradwr" a "chachgi".

Vidkun Quisling
Ganwyd18 Gorffennaf 1887 Edit this on Wikidata
Fyresdal Edit this on Wikidata
Bu farw24 Hydref 1945 Edit this on Wikidata
Akershus Fortress Edit this on Wikidata
Man preswylFyresdal, Drammen, Gjerpen Municipality, Oslo urban area Edit this on Wikidata
DinasyddiaethNorwy Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Academi Filwrol Norwy
  • Norwegian Military College Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd, swyddog milwrol, wartime collaborator Edit this on Wikidata
SwyddMinister of Defence, prif weinidog, ysgrifennydd y lengwlad, pennaeth llywodraeth Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolNasjonal Samling, Centre Party Edit this on Wikidata
TadJon Lauritz Qvisling Edit this on Wikidata
MamAnna Qvisling Edit this on Wikidata
PriodAlexandra Voronin, Maria Quisling Edit this on Wikidata
PerthnasauNils Andreas Quisling Edit this on Wikidata
Gwobr/auUrdd Sant Sava, CBE Edit this on Wikidata
llofnod

Ar ôl cyfnod yn y Weinyddiaeth Amddiffyn ffurfiodd y Blaid Undeb Genedlaethol ffasgyddol yn 1933. Anogodd a chroesawodd oresgyniad Norwy gan yr Almaenwyr yn 1940. Fel "arlywydd-weinidog" (term a ddyfeisiwyd yr adeg honno) rheolai ei wlad dan y Natsïaid yn ystod yr Ail Ryfel Byd a bu'n gyfrifol am anfon tua mil o Iddewon i'r gwersylloedd crynhoi.

Cafodd ei arestio yn 1945, ac fe'i gafwyd yn euog o droseddau rhyfel. Cafodd ei ddienyddio am 02.40 ar 24 Hydref 1945.