Prifddinas gweriniaeth Rwsaidd Gogledd Osetia Vladikavkaz (Rwseg: Владикавказ, Oseteg: Дзæуджыхъæу; Dzæoedzjychæoe). Saif ar afon Terek, rhyw 40 km o'r ffîn a Georgia, ac wrth droed Mynyddoedd y Cawcasws. Hi yw dinas bwysicaf ardal Gogledd y Cawcasws. Roedd y boblogaeth yn 2005 tua 317,370, 45% o holl boblogaeth Gogledd Osetia.

Vladikavkaz
Mathtref/dinas Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlSergo Ordzhonikidze, Sergo Ordzhonikidze, Cawcasws, Unknown Edit this on Wikidata
Poblogaeth306,978 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1784 Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethBoris Albegov Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+03:00 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i
Vladivostok, Makhachkala, Stavropol, Severodvinsk Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Oseteg, Rwseg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirVladikavkaz Urban Okrug Edit this on Wikidata
GwladBaner Rwsia Rwsia
Arwynebedd291 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr692 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau43.04°N 44.6775°E Edit this on Wikidata
Cod post362000–362999 Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethBoris Albegov Edit this on Wikidata
Map

Sefydlwyd Vladikavkaz yn 1784 ar orchymyn Grigori Potemkin, fel caer gerllaw pentref Osetaidd. Yn 1799 agorwyd Ffordd Filwrol Georgia, trwy'r mynyddoedd o Vladikavkaz i Tbilisi. Daeth yn ddinas yn 1861. Yn 1931 newidiwyd ei henw i Ordzjonikidze, ar ôl y Bolshefic Georgaidd Grigol Ordzjonikidze; o 1944 hyd 1954 gelwid hi yn Dzaoedzjikaoe, yna o 1954 hyd 1990 yn Ordzjonikidze eto. Yn 1990, newidiwyd ei henw yn ôl i Vladikavkaz.