Archaeolegydd o Gymru oedd yr Athro William Francis Grimes (31 Hydref 190525 Rhagfyr 1988), a gyhoeddai wrth yr enw W. F. Grimes. Ei brif feysydd oedd archaeoleg Llundain a chynhanes Cymru. Roedd yn frodor o Sir Benfro.

W. F. Grimes
Ganwyd31 Hydref 1905 Edit this on Wikidata
Penfro Edit this on Wikidata
Bu farw25 Rhagfyr 1988 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaetharcheolegydd, archaeolegydd cynhanes Edit this on Wikidata
Swyddcyfarwyddwr Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Gwobr/auCBE Edit this on Wikidata

Cafodd ei addysg brifysgol ym Mhrifysgol Cymru. Bu'n Geidwad Cynorthwyol Adran Archaeoleg Amgueddfa Genedlaethol Cymru, Caerdydd, o 1926 hyd 1938. Bu'n llywydd Cymdeithas Archaeolegol y Cambrian, cadeirydd y Comisiwn Brenhinol ar Henebion yng Nghymru ac ymgymerodd hefyd a sawl post cyhoeddus arall ym maes archaeoleg.

Yn ystod y 1950au a'r 1960au cloddiodd sawl gwaith yn Llundain yn rhinwedd ei swydd fel cyfarwyddwr Amgueddfa Llundain a'r Astudfa Archaeoleg, y sefydliad o fewn Prifysgol Llundain a sefydlwyd gan Syr Mortimer Wheeler yn 1937. Bu'n athro archaeoleg yno hyd ei ymddeol yn 1973.

Un o ddarganfyddiadau pwysicaf Grimes oedd Mithraeum Llundain yn 1954, teml Rufeinig yn gysegredig i'r duw Mithras. Enghraifft gynnar o archaeoleg achub oedd hyn, gan fod y safle, a fomiywd yn y rhyfel, yn cael ei datblygu.

Llyfryddiaeth ddethol golygu

  • Grimes, W. F., The Megalithic Monuments of Wales (1936)
  • ——, The Prehistory of Wales (1951)
  • ——, 'Excavations in the City of London', yn Bruce-Mitford R.L.S. (gol.) Recent Archaeological Excavations in Britain (Llundain, 1956).