W. Rhys Nicholas

gweinidog ac emynydd

Bardd Cymraeg, emynydd a gweinidog gyda'r Annibynwyr oedd Rhys Nicholas (23 Mehefin 1914 - 2 Hydref 1996). Ganwyd yn Tegryn gogledd Sir Benfro, a daeth i amlygrwydd pan enillodd wobr ysgrifennu emyn yn Eisteddfod Pantyfedwen, Llanbedr Pont Steffan ym 1967.

W. Rhys Nicholas
Ganwyd23 Mehefin 1914 Edit this on Wikidata
Tegryn Edit this on Wikidata
Bu farw2 Hydref 1996 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethbardd Edit this on Wikidata

Dyma ddwy linell gyntaf, pennill cyntaf yr emyn:

Tydi a wnaeth y wyrth, O! Grist, Fab Duw,
Tydi a roddaist imi flas ar fyw;

Flwyddyn yn ddiweddarach enillodd Eddie Evans am ysgrifennu'r dôn i gyd fynd â'r geiriau: tôn a adnabyddir yn awr fel Pantyfedwen.[1]

Graddiodd yn y Gymraeg o Goleg Prifysgol Cymru, Abertawe, a bu'n Llywydd Undeb y Myfyrwyr yn 1941-42. Rhwng 1952 a 1975 roedd yn ddarlithydd cyson yn Adran Addysg Bellach y Coleg.

Rhwng 1964 ac 1980 roedd yn gyd-olygydd y cylchgrawn llenyddol Y Genhinen gydag Emlyn Evans.

Llyfryddiaeth golygu

  • Cerddi a Charol (Ty John Penry, 1969)
  • Oedfa'r Ifanc (Ty John Penry, 1974)
  • Cerddi'r Mawl (Ty John Penry, 1980)
  • Y Mannau Mwyn (Ty John Penry, 1985)

Cyfeiriadau golygu

  1. (Saesneg) D. Ben Rees (5 Hydref 1996). Obituaries: The Rev W. Rhys Nicholas. The Independent. Adalwyd ar 10 Rhagfyr 2012.