Wales, Efrog Newydd

Tref yn Swydd Erie, yn nhalaith Efrog Newydd, Unol Daleithiau America, yw Wales. Roedd ganddi boblogaeth o 2,960 yn ôl cyfrifiad 2000. Cafodd ei henwi'n Wales gan y Cymry a ymsefydlodd yno ar ddechrau'r 19g.

Wales
Mathanheddiad dynol Edit this on Wikidata
Poblogaeth3,009 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirErie County Edit this on Wikidata
GwladBaner Unol Daleithiau America Unol Daleithiau America
Arwynebedd35.64 mi² Edit this on Wikidata
Uwch y môr407 ±1 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau42.7294°N 78.5197°W Edit this on Wikidata
Map
Gweler hefyd Wales (gwahaniaethu).

Cyfrifir tref Wales yn lleol yn un o "Southtowns" Swydd Erie oherwydd ei lleoliad yn ne-ddwyrain y swydd honno. Mae hi'n gorwedd mewn ardal o goedwigoedd a ffrydiau.

Cyrhaeddodd yr ymsefydlwyr cyntaf yn 1806. Sefydlwyd tref Wales ganddynt yn 1818.

Lleoedd yn Wales golygu

Mae Tref Wales yn cynnwys y dref ei hun a'r tir o gwmpas. Ymhlith y lleoedd a chymunedau yno ceir.

  • Buffalo Creek - ffrwd sy'n llifo i'r gogledd ger Wales
  • Colgrave - Ar Ffordd Centerline
  • South Wales - Pentref bychan ar y ffin â thref Aurora yn ne-ddwyrain Wales
  • Wales Center - Pentref bychan
  • Wales Hollow

Dolenni allanol golygu