Walford Davies

cyfansoddwr a aned yn 1869

Cerddor a chyfansoddwr oedd Syr Henry Walford Davies (6 Medi 186911 Mawrth 1941) a oedd yn adnabyddus i lawer a wrandawai arno’n darlledu am gerddoriaeth ar y radio.

Walford Davies
Ganwyd6 Medi 1869 Edit this on Wikidata
Croesoswallt Edit this on Wikidata
Bu farw11 Mawrth 1941 Edit this on Wikidata
Wrington Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethorganydd, cyfansoddwr, academydd Edit this on Wikidata
SwyddMeistr Cerddoriaeth y Brenin Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Arddullcerddoriaeth glasurol Edit this on Wikidata
PriodConstance Margaret Isabel Evans Edit this on Wikidata
Gwobr/auOBE, Marchog-Cadlywydd Urdd Brenhinol Fictoraidd Edit this on Wikidata

Bywyd a gwaith golygu

Ganed Walford Davies yng Nghroesoswallt, Lloegr.

Gyrfa academaidd golygu

Ymunodd â chôr Capel Sant Siôr, Windsor pan yn 12 oed, lle y bu yn astudio ac yna’n cynorthwyo yr organydd Syr Walter Parratt. Aeth oddi yno yn 1890 i astudio yn y Coleg Cerdd Brenhinol. By’n athro gwrthbwynt yn y coleg o 1895 hyd at 1903.

O 1919 hyd at 1926 bu’n athro cerdd yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth. Bu’n weithgar yn hybu cerddoriaeth Gymreig yn ei swydd fel cadeirydd Cyngor Genedlaethol Cerddoriaeth Cymru a ddaliodd o 1919 hyd at ei farw.

Cerddor a Chyfansoddwr golygu

Bu’n organydd mewn nifer o eglwysi gan gynnwys Eglwys Temple, Llundain a Chapel Sant Siør, Windsor. Bu’n gyfarwyddwr cerdd mewn sawl man gan gynnwys bod yn gyfarwyddwr cerdd i’r Awyrlu Brenhinol ac yn arweinydd Côr Bach.

Cyfansoddodd Walford Davies weithiau ar gyfer cerddorfeydd, bandiau pres, corau ac unawdwyr. Gweithiau crefyddol oedd y mwyafrif o’i gyfansoddiadau.

Darlithydd a darlledwr golygu

Yn y 1920au dechrewyd gyhoeddi recordiau o ddarlithoedd Walford Davies ar fiwsig. O 1926 hyd at 1939 bu’n darlledu ar bwnc miwsig clasurol ar wasanaeth radio y BBC. Oherwydd y gwaith radio yma y daeth yn adnabyddus i lawer.

Ar goroni'r brenin Siarl III, ym mis Mai 2023, canodd Roderick Williams y "Confortare" gan Davies.[1]

Anrhydeddau golygu

Gweithiau golygu

Detholiad o’i gyfansoddiadau golygu

  • Everyman (oratorio)
  • O Little Town of Bethlehem (trefniant)
  • RAF March Past (ymdaith i fand pres)
  • Solemn Melody (ar gyfer cerddorfa ac organ)

Llyfrau golygu

  • The Pursuit of Music (1935)

Llyfryddiaeth golygu

  • Walford Davies & the National Council of Music, 1918 – 1941 gan David Ian Allsobrook
  • A Forgotten Organist gan Kenneth Shenton (1992)
  • The Oxford Companion to Music gan Percy Scholes
  • Letters of Frederic Rothwell (1900)
  • Music & Letters gan HC Colles (1941)

Llyfryddiaeth ar y we golygu

Prif ffynonellau yr erthygl golygu

  • Y Bywgraffiadur Cymreig 1941 - 1950 (Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion)
Rhagflaenydd
Edward Elgar
Meistr Cerddoriaeth y Brenin
1934–1941
Olynydd
Arnold Bax

Cyfeiriadau golygu

  1. "Famous face leads fellow Kineton villagers in singing of National Anthem". Warwickshire World (yn Saesneg). 9 Mai 2023.