Chwaraewr pêl-droed Cymreig yw Wayne Robert Hennessey (ganwyd 24 Ionawr 1987). Mae'n chwarae i Nottingham Forest yn Uwch Gynghrair Lloegr a thîm cenedlaethol Cymru.

Wayne Hennessey

Hennessey yn chwarae i Gymru yn 2011
Gwybodaeth Bersonol
Enw llawnWayne Robert Hennessey
Dyddiad geni (1987-01-24) 24 Ionawr 1987 (37 oed)
Man geniBangor, Gwynedd, Cymru
Taldra1.98m[1]
SafleGolwr
Y Clwb
Clwb presennolCrystal Palace
Rhif13
Gyrfa Ieuenctid
2001–2003Manchester City
2003–2006Wolverhampton Wanderers
Gyrfa Lawn*
BlwyddynTîmYmdd(Gôl)
2006–2014Wolverhampton Wanderers152(0)
2006Bristol City (benthyg)0(0)
2007Stockport County (benthyg)15(0)
2013Yeovil Town (benthyg)12(0)
2014–2021Crystal Palace110(0)
2021-2022Burnley2(0)
2022-Nottingham Forest2(0)
Tîm Cenedlaethol
2002-2004Cymru dan 176(0)
2004-2006Cymru dan 197(1)
2005–2009Cymru dan 216(0)
2007–Cymru108(0)
* Cyfrifir yn unig: ymddangosiadau i Glybiau fel oedolyn a goliau domestg a sgoriwyd. sy'n gywir ar Ionawr 31 2023 (UTC).

† Ymddangosiadau (Goliau).

‡ Capiau cenedlaethol a goliau: gwybodaeth gywir ar Ionawr 31 2023 (UTC)

Gyrfa clwb golygu

Dechreuodd Hennessey gydag Academi Manchester City ond bu rhaid i'r teulu symud o Ynys Môn i fyw yng Nglannau Dyfrdwy er mwyn ei alluogi i deithio i Manceinion[2].

Gadawodd Manchester City pan yn 16 mlwydd oed wedi i'r clwb ffafrio Kasper Schmeichel fel eu dewis cyntaf i'r tîm ieuenctid a symudodd i Wolverhampton Wanderers. Cafodd ei gêm broffesiynol cyntaf tra ar fenthyg gyda Stockport County a llwyddodd i dorri record y Gynghrair Bêl-droed am gadw llechen lan mewn naw gêm yn olynol[3].

Chwaraeodd 166 o gemau i Wolverhampton Wanderers dros gyfnod o wyth tymor, gan gynnwys tri thymor yn Uwch Gynghrair Lloegr cyn symud i Crystal Palace ym mis Ionawr 2014.

Gyrfa ryngwladol golygu

Mae Hennessey wedi ennill capiau i dimau cenedlaethol Cymru dan17, dan 19 a dan 21 a llwyddodd i sgorio yn erbyn Twrci dan19 â chic rhydd.[4].

Cafodd ei gap cyntaf i dîm cenedlaethol Cymru fel eilydd ail hanner yn y gêm gyfeillgar ar Y Cae Ras,Wrecsam yn erbyn Seland Newydd ym mis Mai 2007[5]. a casglodd ei 50fed cap yn erbyn Cyprus ym mis Medi 2015[6].

Chwaraeodd ym mhob un o gemau Cymru yn ymgyrch rhagbrofol Pencampwriaeth UEFA Euro 2016, gan ildio pedair gôl yn unig. Cafodd ei gynnwys yng ngharfan 23-dyn Cymru ar gyfer y bencampwriaeth ond bu rhaid iddo fethu'r gêm agoriadol yn erbyn Slofacia oherwydd problem gyda'i gefn[7].

Cyfeiriadau golygu

  1. "Player Profile: Wayne Hennessey Wolverhampton Wanderers F.C." 2009-08-05. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-05-10. Cyrchwyd 2014-05-20.
  2. "Molineux revived my lost dream". Birmingham Mail. 2007-06-03.
  3. "Sky Sports: Hennessey verdict". 2014-01-31. Unknown parameter |published= ignored (help)
  4. "Hennessey puts County strikers in shade". Manchester Evening News. 2007-01-16.
  5. "Wales v New Zealand". WelshFootballOnline.com. 2007-05-26. Unknown parameter |published= ignored (help)
  6. "Cyprus v Wales". WelshFootballOnline.com. Unknown parameter |published= ignored (help)
  7. "Euro 2016: Wayne Hennessey ruled out of Wales opener with back spasm". BBC Sport. 2016-06-11.