Wermod wen
Blodau'r wermod wen
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Plantae
Ddim wedi'i restru: Angiosbermau
Ddim wedi'i restru: Ewdicotau
Ddim wedi'i restru: Asteridau
Urdd: Asterales
Teulu: Asteraceae
Genws: Tanacetum
Rhywogaeth: T. parthenium
Enw deuenwol
Tanancetum parthenium
(L.) Sch. Bip.

Llysieuyn rhinweddol iawn ydy'r wermod wen (Lladin: Chrysanthemum parthenium, Saesneg: Feverfew) sydd wedi ei ddefnyddio ers canrifoedd i wella meigryn a gwynegon. Fe'i tyfir hefyd er mwyn ei arddangos a'i ogla. Nid yw'n tyfu'n fwy na thua deunaw modfedd o uchder a cheir arogl lemwn cryf iawn ar y dail. Mae'r blodau'n edrych yn debyg iawn i lygad y dydd. Gall ledaenu'n gyflym iawn drwy'r ardd.

Ymddengys y gair "wermod wen" yn gyntaf yn y 14g.[1]

Rhinweddau meddygol golygu

Mae iddo rinweddau meddygol megis y gallu i wella cur pen eithafol, gwynegon (cricmala) a phroblemau'n ymwneud â'r cylla (poen bol).[2] Tair deilen sydd ei angen (neu un fawr) a'u rhoi mewn brechdan, gyda digon o fenyn arno, neu fêl. Dylid ei gymryd unwaith y dydd rhwng prydau bwyd a hynny am bedwar mis cyn gweld unrhyw wellhad.

Yn ddiweddar mae Prifysgol Rochester yn gweithredu profion clinigol dwys iawn i'r posibilrwydd cryf fod y wermod wen yn medru ymosod ar gelloedd canser:

Jordan’s lab has already seen promising results with a new compound, developed from a daisy-like plant known as feverfew or bachelor’s button. A component of the plant called parthenolide is the first single agent known to act on leukemias at the stem-cell level.[3]

Cyfeiriadau golygu

  1. Geiriadur Prifysgol Cymru, Cyfrol lV, tudalen 3732.
  2. Llysiau Rhinweddol gan Ann Jenkins, cyhoeddwyd gan Wasg Gomer, 1982.
  3. Canolfan Feddygol Prifysgol Rochester[dolen marw]

Gweler hefyd golygu