Weston under Penyard

Pentref bychan yn Swydd Henffordd, Gorllewin Canolbarth Lloegr, ydy Weston under Penyard.

Weston under Penyard
Mathpentref, plwyf sifil Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSwydd Henffordd, Archenfield, Erging Edit this on Wikidata
GwladBaner Lloegr Lloegr
Cyfesurynnau51.907°N 2.538°W Edit this on Wikidata
Cod SYGE04000906 Edit this on Wikidata
Map

Gorwedd ar y ffordd A40 tua dwy filltir i'r dwyrain o Rhosan-ar-Wy. Daw enw'r pentref o'r ffaith ei fod yn gorwedd wrth droed allt o'r enw Penyard.

Mae gan Eglwys St Lawrens glochdy uchel a godwyd yn y 14g; cafodd ei daro gan fellt yn 1750.

I'r dwyrain o'r pentref dan dir amaethyddol ceir safle hen dref Rufeinig Ariconium a gysylltir â'r deyrnas Gymreig gynnar Erging. Credir iddi fod yn "brifddinas" Erging yn y cyfnod ôl-Rufeinig. Ymddengys fod yr enw Lladin Ariconium yn deillio o ffurf Frythoneg ar yr enw Erging, ond mae'n werth sylwi bod dinas o'r un enw yn nhalaith Rufeinig Galatia, yn Asia Leiaf.

Cyfeiriadau golygu

Dolenni allanol golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am Swydd Henffordd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.