Un o'r ynysoedd sy'n ffurfio Ynysoedd Erch yng ngogledd-ddwyrain yr Alban yw Westray. Gydag arwynebedd o 18.2 milltir sgwar, hi yw'r chweched ymhlith Ynysoedd Erch o ran maint. Saif i'r gogledd o'r brif ynys, Mainland, ac roedd y boblogaeth yn 2001 yn 563. Y prif bentref yw Pierowall.

Westray
Mathynys Edit this on Wikidata
Poblogaeth588 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolYnysoedd Erch Edit this on Wikidata
SirYnysoedd Erch Edit this on Wikidata
GwladBaner Yr Alban Yr Alban
Arwynebedd4,713 ha Edit this on Wikidata
GerllawCefnfor yr Iwerydd Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau59.3°N 3°W Edit this on Wikidata
Hyd11.5 cilometr Edit this on Wikidata
Map

Ymhlith prif adeiladau'r ynys mae Castell Noltland. Cysylltir yr ynys a Kirkwall ar y brif ynys gan awyren. Gellir hefyd hedfan i ynys Papa Westray. Ceir gwasanaeth fferi i Kirkwall hefyd. Mae nifer fawr o adar môr yn nythu ar glogwyni'r ynys, yn cynnwys 60,000 Gwylog a 30,000 Llurs.

Ymhlith y darganfyddiadau pwysicaf yn yr Alban mae "Links of Noltland", pentref Oes Newydd y Cerrig. Mae'r "Gwraig Westray" yn arteffact pwysig o'r safle.

Archie Angel golygu

Mae Westray wedi bod yn lleoliad llawer o longddrylliadau dros y canrifoedd. Yn y 1730au, drylliwyd llong Rwsiaidd yno. Roedd darn o'r llongddrylliad â'r enw "Archangel" wedi'i ysgrifennu arno. Yr unig oroeswr oedd babi. Cafodd yr enw "Archie Angel" ac mae ei ddisgynyddion yn dal i fyw yn yr Ynysoedd Erch.[1]

 
Lleoliad Westray
 
Castell Noltland

Cyfeiriadau golygu

  1. James Miller (1999). Salt in the Blood: Scotland's Fishing Communities Past and Present (yn Saesneg). Canongate. t. 6.