Whitehorse yw prifddinas tiriogaeth Yukon, yng ngogledd-orllewin Canada. Mae gan y ddinas boblogaeth o 24,151 (2006), sy'n cyfrif am dros 75% o boblogaeth Yukon.

Whitehorse
Mathprovincial or territorial capital city in Canada, dinas Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlWhite Horse Rapids Edit this on Wikidata
Poblogaeth28,201 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1898 Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethLaura Cabott Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC−07:00 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/iJuneau, Ushiku Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirYukon Edit this on Wikidata
GwladBaner Canada Canada
Arwynebedd416.54 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr670 metr, 1,700 metr Edit this on Wikidata
GerllawAfon Yukon Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaHaines Junction Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau60.7172°N 135.0558°W Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethLaura Cabott Edit this on Wikidata
Map
Gorsaf reilffordd Whitehorse

Fel pen eithaf trafnidiaeth ar Afon Yukon, roedd y ddinas yn ganolfan bwysig yn Rhuthr Aur Klondike ar ddiwedd y 1880au. Mae'n brifddinas y diriogaeth er 1953, pan gafodd ei symud o Dawson City ar ôl adeiladu Priffordd Klondike. Enwir y ddinas ar ôl ffrydiau (rapids) White Horse. Adeiladwyd argae Whitehorse ym 1953, a chrewyd Llyn Chwatka, yn boddi’r ffrydiau.[1] Mae Mynydd Grey, Bryn Haeckel a Mynydd Golden Horn yn ymyl y dref.[2]

Adeiladwyd 2 dramffordd ar lannau Afon Yukon ym 1897 i hwyluso’r daith heibio i’r ffrydiau ar y ffordd i’r Klondike, a datblygodd dref o bebyll yno. Cyrhaeddodd y Rheilffordd White Pass a Yukon ym 1900.[1]


Cludiant golygu

Mae'r ddinas ar garreg filltir 918 ar Briffordd Alaska ac ar un adeg roedd yn derminws i Reilffordd White Pass a Yukon o Skagway, Alaska.

Gwasanaethir Whitehorse gan Faes Awyr rhyngwladol Erik Neilsen[3]

Cyfeiriadau golygu


  Eginyn erthygl sydd uchod am Yukon. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.