Mae Wica Algard yn draddodiad, neu enwad, o'r grefydd Neo-baganaidd, Wica. Sefydlwyd yn yr Unol Daleithiau ym 1972 gan Mary Nesnick, archoffeiriaid Wica Gardneraidd ac Wica Alecsandraidd, mewn cais i gyfuno'r ddau draddodiad.[1] Fel canlyniad categoreiddir y traddodiad hwn o dan Wica Draddodiadol Prydain, a gall ei aelodau olrhain eu llinach yn ôl i Gerald Gardner, tad Wica.

Cyfeiriadau golygu

  1. Rabinovitch, Shelley (2004). The Encyclopedia of Modern Witchcraft and Neo-Paganism. Efrog Newydd: Citadel Press. ISBN 0-8065-2407-3URL. OCLC 59262630


  Eginyn erthygl sydd uchod ynglŷn â Neo-baganiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato


  Eginyn erthygl sydd uchod am yr ocwlt. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.