Wicipedia:Cyngor i rieni

A white swan followed by nine little cygnets
Nod y dudalen hon yw darparu cyngor defnyddiol i'ch teulu

Anela Wicipedia at gynnig "cyfanswm holl wybodaeth ddynol" mewn fformat sy'n gyfreithlon i'w gopïo, addasu ac ail-ddosbarthu i bawb, a hynny'n rhad ac am ddim. O gofio hynny, rydym bellach yn un o'r casgliadau mwyaf o wybodaeth sydd erioed wedi cael ei greu ac mae gennym broffil uchel fel un o wefannau mwyaf poblogaidd y wê. Gobeithiwn y byddwch yn gweld gwerth addysgiadol enfawr i'r prosiect; ymysg ein herthyglau, dylech ddod o hyd i erthygl sy'n berthnasol i'r meysydd rydych chi'n astudio. Fodd bynnag, ni ddylai unrhyw wyddoniadur atal ymchwilio pellach, a gobeithio y byddwch yn teimlo fod ein herthyglau yn eich arwain i ymchwilio'n ddyfnach i ystod eang o bynciau gwahanol.

Gall unrhywun olygu Wicipedia. O ganlyniad, mae gwybodaeth anghywir a fandaliaeth pur yn faterion sy'n wynebu'r prosiect yn ddyddiol. Serch hynny, cymerir nifer o gamau er mwyn lleihau effaith hynny. Mae'r rhain yn cynnwys golygwyr i nodi ffynonellau dibynadwy, yn ogystal â chadw llygad ar y newidiadau diweddar am fandaliaeth.

Bwriad y dudalen hon yw i'ch galluogi i ystyried y ffordd orau i ganiatau i'ch plant, neu blant yr ydych yn gyfrifol amdanynt, ddefnyddio a mwynhau Wicipedia mewn ffordd ddiogel.

Cynnwys Wicipedia golygu

Ni chaiff Wicipedia ei sensro. Ar lefel ymarferol golyga hyn ei fod yn bosib y dewch chi o hyd i gynnwys a lluniau a allai ddigio rhai darllenwyr. Gallai'r cynnwys hyn ddangos lluniau o weithgarwch rhywiol neu regfeydd. Mae'n bosib y byddwch yn ystyried deunydd o'r fath, sy'n bresennol mewn canran fechan o erthyglau, yn bornograffi. Mae'n bosib newid gosodiadau Wicipedia er mwyn peidio dangos lluniau os y dymunwch - mae nifer o ffyrdd o wneud hyn. Amrywia'n golygwyr o ran oed a chefndiroedd diwylliannol, ac o ganlyniad, mae rhegfeydd yn amlwg mewn rhai ardaloedd.

Weithiau gall dudalennau sy'n addas i blant fel arfer gael eu fandaleiddio gan eiriau anweddus neu gynnwys sy'n debygol o ddigio. Gan amlaf, sylwir ar fandaliaeth o fewn ychydig funudau a chaiff ei ddileu; fodd bynnag, weithiau mae'n bosib na fydd unrhyw un yn sylwi arno am rai dyddiau. Serch hynny, gall unrhyw berson sy'n sylwi ar gynnwys anaddas ddileu'r wybodaeth o'r dudalen.


Cymuned Wicipedia golygu

Nid yw Wicipedia yn gweithredu gwiriad "gweithio gyda phlant" ar olygwyr, ac mae'n bosib i unrhyw olygydd gyfathrebu â'i golydd naill ai ar y wici, neu drwy e-bost os oes gan y golygydd gyfrif ebost sydd wedi ei gofrestru gyda Wicipedia. Mae'n bosib na fydd y cyfathrebu hwn yn cael ei fonitro gan olygwyr eraill Wicipedia, ac rydym yn argymell yn gryf na ddylai unrhyw olygydd gyhoeddi gwybodaeth bersonol megis manylion cyswllt llawn. Yn aml, gellir symud un fanylion personol neu gyswllt a gyhoeddir yn ddamweiniol drwy gysylltu â gweinyddwyr neu fiwrocratiaid y wefan.

Mae'r mwyafrif o gyfathrebu ar Wicipedia yn digwydd mewn modd agored, cyhoeddus, adolygadwy (mae'r negeseuon "tudalennau sgwrs" hyn yn oed yn medru cael eu darllen gan bawb). Fodd bynnag, yn wahanol i rai gwefnnau sydd wedi'u hanelu at bobl ifanc, sylwch nad oed gan Wicipedia staff sy'n cadw llygad ar dudalennau sgwrs neu'n dileu sylwadau anaddas; gweinyddwyr gwirfoddol yn unig sydd gennym, sy'n medru rhwystro pobl rhag torri'r rheolau cwrteisi ar Wicipedia, ond ni fyddant yn sensro sgyrsiau, hyd yn oed os ydynt yn ymdrin â phynciau i oedolion.

Rhaid i blant a rhieni ddeall y gall unrhyw berson gyfrannu i'r prosiect hwn. Tra bod rhai cymunedau ar-lein sy'n ffocysu ar blant yn cael gwared o aelodau sydd yn/o dan amheuaeth o beryglu plant yn y byd "go iawn/off-lein", gan amlaf nid yw Wicipedia yn gofyn i ddefnyddwyr ddatgelu pwy ydynt, ac felly ni ellir cael gwared ohonynt ar sail unrhyw beth sy'n ymwneud â'u hunaniaeth, gan gynnwys cofnodion troseddol neu droseddwyr rhyw. Ni ddylai plentyn, nac unrhyw un arall, gymryd yn ganiataol os oes gan rhywun gyfrif ar Wicipedia, yna mae'n ddiogel i'w cyfarfod wyneb yn wyneb. Prosiect gwyddoniadurol ydy Wicipedia, nid gwefan rhwydweithio cymdeithasol. Dylid defnyddio synnwyr cyffredin lle bo'n briodol, a chofio fod unrhyw un yn gallu esgus bod yn unrhyw beth ar y wê. Yn gyffredinol, disgwylir i olygwyr Wicipedia gynnal pwnc pan yn arwain trafodaeth ar y wefan; serch hynny, fel gyda phob cymuned ar y wê, daw Wicipedia a phobl at ei gilydd. Er i'r grŵpiau hyn ffurfio ar liwt eu hunanin ac nid ydynt yn cael eu cymeradwyo gan Wicipedia, dylai rieni wybod y gallai eu plentyn gysylltu eu hunain â dieithryn nad ydynt yn adnabod.

Gweler hefyd golygu

Mae'r tudalennau canlynol yn draethodau sy'n disgrifio meddyliau rhai Wicipedwyr, sydd wedi methu a chael derbyniad lawn fel canllawiau a pholisïau swyddogol, ond maent yn ymwneud â phynciau tebyg: