Cwmni o benseiri yw Wilkinson Eyre â'u pencadlys yn Llundain. Yn 2001 a 2002 enillon nhw Wobr Stirling, y wobr bensaernïol mwyaf ar gyfer penseiri Prydeining yn unig, ar gyfer eu gwaith ar Bont y Mileniwm yn Gateshead yng ngogledd-ddwyrain Lloegr. Maent yn arbenigo mewn prosiectau sydd yn cyfuno peirianyddiaeth cymhleth â chynllunio cain, megis yr uchod. Eu hunig adeilad yng Nghymru yw Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn Abertawe.