William Evans (Wil Ifan)

gweinidog (A. Saesneg), bardd a llenor yn Gymraeg a Saesneg

Roedd William Evans neu Wil Ifan (22 Ebrill 1883 - 16 Gorffennaf 1968) yn fardd a ffigwr pwysig ym myd yr Eisteddfod.

William Evans
FfugenwWil Ifan Edit this on Wikidata
Ganwyd22 Ebrill 1883 Edit this on Wikidata
Llanwinio Edit this on Wikidata
Bu farw16 Gorffennaf 1968 Edit this on Wikidata
Pen-y-bont ar Ogwr Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethbardd Edit this on Wikidata
Llun Wil Ifan yng ngwisg yr Archdderwydd ar glawr blaen Y Corn Gwlad, cylchgrawn Gorsedd y Beirdd.

Braslun o'i fywyd golygu

Ganwyd Wil Ifan yn fab i weinidog amlwg gyda'r Annibynwyr Cymraeg, y Dr Dan Evans a'i briod, a oedd yn cartrefu yr adeg honno yng Nghwmbach, Llanwinio, Sir Gaerfyrddin. Galwyd ef yn William Evans a chafodd pob cefnogaeth gan ei rieni ac ysgolion da i baratoi ei hun, ym Mhrifysgol Cymru, Bangor, y Coleg Diwinyddol a Choleg Manceinion, Rhydychen. Treuliodd William Evans ei holl fywyd yn weinidog yr Efengyl gyda'r Annibynwyr Saesneg. Roedd yn gwbl gysurus yn y ddwy iaith. Iaith crefydd oedd Saesneg, iaith yr aelwyd yn Gymraeg. Priododd Nesta Wyn Edwards o Ddolgellau, hithau fel yntau yn raddedig o Brifysgol Cymru, a ganwyd iddynt bedwar o blant. Bu farw ym Mhen-y-bont ar Ogwr a chladdwyd ef yn Rhydymain, Meirionnydd.

Ei waith llenyddol golygu

Bardd golygu

Y delyneg oedd ei hoff gyfrwng fel bardd a chafwyd toreth ohonynt. Darllener y rhain yn ei gyfrolau, er enghraifft, Dros y Nyth a ddaeth allan yn 1915; Dail Iorwg a gyhoeddwyd yn 1919; Plant y Babell a welodd olau dydd yn 1922; O Ddydd i Ddydd a dderbyniodd groeso y beirniaid yn 1927; Y Winllan Las a blesiodd bobl lengar Bro Morgannwg lle preswyliai y bardd-bregethwr yn 1936; Unwaith Eto a gyhoeddwyd yn 1946; ac ar ôl hynny cyhoeddwyd Haul a Glaw.

Dyna gynhaeaf da ond lluniodd gyfrolau o farddoniaeth yn Saesneg yn ogystal; pum cyfrol yn y cyfnod ffrwythlon yma.

I raddau ei gyfraniad parhaol fu ei bryddest enwog 'Bro fy Mebyd' yn 1925. Enillodd y Goron deirgwaith a bu'n Archdderwydd yr Orsedd o 1947 hyd 1950.

Colofnydd golygu

Nid bardd yn unig mohono. Ysgrifennai yn gyson golofn Gymraeg i'r Western Mail ac y mae ei waith gorau wedi ei osod ar gof a chadw yn y Filltir Deg (1954) a Colofnau Wil Ifan (1962).

Dramodydd golygu

Ymddiddorodd yn y ddrama a bu yn un o arloeswyr y mudiad fel y gwelwn yn Y Dowlad (1922) ac Yr Het Goch (1933) i enwi dwy o'r chwech drama a luniodd yn Gymraeg ac un yn Saesneg.

Llyfryddiaeth golygu

Cyfrolau Wil Ifan golygu

  • Dros y Nyth (1915)
  • Dail Iorwg (1919)
  • Plant y Babell (1922)
  • O Ddydd i Ddydd (1927)
  • Y Winllan Las (1936)
  • Unwaith Eto (1946)
  • Y Filltir Deg (1954)
  • Colofnau Wil Ifan (1962)

Llyfryddiaeth golygu

  • D. Ben Rees, Pymtheg o Wŷr Llên yr Ugeinfed Ganrif (1972).

Cyfeiriadau golygu