William Jones (mathemategydd)

mathemategydd Cymreig a ddefnyddiodd 'pi' am y tro cyntaf

Mathemategydd Cymreig oedd William Jones (16751 Gorffennaf 1749) fathodd y symbol π ("pai" yn Gymraeg; o'r lythyren Groeg pi) i gynrychioli’r gymhareb rhwng cylchedd cylch a'i ddiamedr.

William Jones
Ganwyd1675 Edit this on Wikidata
Llanfihangel Tre'r Beirdd Edit this on Wikidata
Bu farw1 Gorffennaf 1749 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethmathemategydd Edit this on Wikidata
Cysylltir gydapi Edit this on Wikidata
Adnabyddus ampi Edit this on Wikidata
TadSiôn Siôr Edit this on Wikidata
MamElizabeth Rowland Edit this on Wikidata
PlantWilliam Jones Edit this on Wikidata
Gwobr/auCymrawd y Gymdeithas Frenhinol Edit this on Wikidata
Am bobl eraill o'r un enw, gweler William Jones.

Bywyd golygu

Yn fab i John George ac Elizabeth Rowland Jones,[1] ganwyd a magwyd William mewn tyddyn o'r enw "Y Merddyn" ym mhentref bychan Capel Coch ym mhlwyf Llanfihangel Tre'r Beirdd, ar Ynys Môn cyn symud i Lanbabo.

Derbyniodd ei addysg cynnar mewn ysgol elusennol yn Llanfechell.[2] Trwy ei fedrau rhifyddeg, enillodd cefnogaeth a nawdd teulu Argwlydd Bulkeley, y tirfeddiannwyr lleol, a anfonodd William i Lundain. Yn Llundain cychwynodd ei yrfa yn gweithio fel cyfrifydd i fasnachwr. Tra'r oedd yng ngwasanaeth y gŵr hwnnw, bu ar fordaith i India'r Gorllewin. Addysgwyd ef mewn mathemateg a morwriaeth ar fwrdd llong y llynges o 1695 hyd 1702, gan hefyd sefydlu ysgol yn dysgu mathemateg yn Llundain yn hwyrach yn ei fywyd.

Prin yw'r tystiolaeth bod William wedi cadw cysylltiad â Môn a Chymru, ond prynodd lyfrau a llawysgrifau'r ysgolhaig Moses Williams. Trefnodd i Richard Morris wneud restr ohonynt a'u rhoi mewn trefn. Ymddiddoriai yn yr argraffiad newydd o'r Beibl a olygodd Richard Morris yn 1746, ac yn hwnnw mae dau fap sy'n "rhodd William Jones i'r Cymry".

Yn y ddeunawfed ganrif yr oedd yn arfer gan foneddigion estyn croeso i wŷr galluog i'w tai. Mwynhaodd William gyfeillgarwch Arglwydd Parker a Iarll Macclesfield. Wedi colli ei bres oherwydd i fanc a fuddsoddwyd ynddo dorri, bu William yn byw am flynyddoedd yng nghartref Iarll Macclesfield yng Nghastell Shirburn. Priododd William â Marry Nix, merch y gwneuthurwr dodrefn enwog, a ganwyd fab iddynt. Enwyd eu mab yn William Jones hefyd, ac roedd yn ieithydd enwog, yn enwedig am ddarganfod y teulu Indo-Ewropeaidd o ieithoedd; roedd hefyd yn farchog.

Pan fu farw William yn 1749 dywedid bod ganddo'r llyfrgell fathemategol orau ym Mhrydain. Gadawodd honno, a'i gasgliad o lyfrau a llawysgrifau Cymraeg i Iarll Macclesfield. Prynodd Syr John Williams y casgliad yn 1899 a'u rhoi i'r Llyfrgell Genedlaethol.

Gwaith golygu

 
Y symbol byd-eang a grëwyd gan y bachgen o Fôn

Yn 1702 cyhoeddodd ei lyfr cyntaf New Compendium of the Whole Art of Navigation, ac yntau ond yn 28 oed.[3]

Yn 1706 cyhoeddodd ei ail lyfr Synopsis Palmarorium Mathesos, or a New Introduction to Mathematics. Yn y llyfr hwn mae ei gyfraniad mwyaf fel mathemategydd, sef cyflwyniad o'r symbol π (y llythyren Groeg pai) i gynrychioli’r gymhareb rhwng cylchedd cylch a'i ddiamedr. Ystyrid Synposis fel un o'r llyfrau mwyaf y cyfnod, a thrwyddi daeth at sylw Syr Isaac Newton a Syr Edmond Halley. Trwy'r ddau yma, daeth i gysylltiad â deallusion y cyfnod yn y Gymdeithas Brenhinol. Ar yr adeg hyn yr oedd maes calcwlws yn datblygu, gyda Newton ym Mhrydain a Leibnitz yn Ffrainc, ill dau, yn arddel math gwahanol o'r un pwnc. Yn 1711 penodwyd William yn aelod o bwyllgor y Gymdeithas Frenhinol, a sefydliwyd i astudio datblygaidau ym maes calcwlws; cydnabyddiaeth o'i statws ymhlith mathemategwyr Prydain. Yn 1712, etholwyd ef yn frodor o’r Gymdeithas Frenhinol, a bu'n ddirprwy-lywydd y Gymdeithas am gyfnod.

Tua 1711 derbyniodd William y swydd o olygu rhai o weithiau gwyddonol Isaac Newton, gan ei fod yn rhy brysur gyda'i waith efo'r Mint Brenhinol. Cyhoeddodd William amryw o bapurau o'i waith yn Philosophical Transactions of the Royal Society. Hefyd, y fo oedd y cyntaf i osod allan reolau llôg cyfansawdd neu adlog (compound interest).

Diwrnod Pi golygu

Ers 1988 mae 14 Mawrth wedi cael ei ddynodi'n ddiwrnod rhyngwladol π a datblygodd i fod yn ddathliad byd-eang. Deilliodd y syniad o gael diwrnod pai o San Francisco, Unol Daleithiau'r America, lle defnyddir y fformat 'mis/dydd/blwyddyn' ar gyfer dyddiadau; o ddilyn y patrwm hwn, mae 14 Mawrth yn cyfateb i dri digid cynta'r rhif. Mae'r diwrnod hefyd yn gyfle i hyrwyddo mathemateg yn gyffredinol.[4]

Llyfryddiaeth golygu

  • Ll. G. Chambers, Mathemategwyr Cymru (Caerdydd, 1994), tt. 18-22.
  • Gareth Ffowc Roberts, Cyfri'n Cewri (Caerdydd, 2020), tt. 11-19.

Cyfeiriadau golygu

  1. Gwŷr Môn. Bedwyr Lewis Jones. [Caernarfon]: Cyngor Gwlad Gwynedd. 1979. ISBN 0-903935-07-4. OCLC 7735839.CS1 maint: others (link)
  2. Gwefan Cymdeithas Hanes Mechell; Archifwyd 2012-09-25 yn y Peiriant Wayback. adalwyd 30 Mai 2013
  3. [Cyfri'n Cewri gan Gareth Ffowc Roberts; Gwasg Prifysgol Cymru (2020). Tud 14.
  4. Y Cymro arlein; adalwyd 7 Mawrth 2017.

Dolenni allanol golygu