William Lloyd (mynyddwr)

milwr ac un o'r Ewropeaid cyntaf i esgyn i ben unrhyw fynydd eiraog yn yr Himalaya

Milwr Cymreig ac un o arloeswyr dringo yn yr Himalaya oedd Syr William Lloyd (29 Rhagfyr 1782 - 16 Mai 1857).

William Lloyd
Ganwyd29 Rhagfyr 1782 Edit this on Wikidata
Wrecsam Edit this on Wikidata
Bu farw16 Mai 1857 Edit this on Wikidata
Thebes Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethmilwr, dringwr mynyddoedd Edit this on Wikidata
Gwobr/auMarchog Faglor Edit this on Wikidata
Chwaraeon

Bywgraffiad golygu

Ganed ef yn Wrecsam, yn fab i fanciwr, ac addysgwyd ef yn Rhuthun. Ymunodd â byddin yr Honourable East India Company yn 1798, a dod yn swyddog. Bu'n brif swyddog yn Nagpur am 14 mlynedd. Yn 1822 cychwynnodd ar daith trwy'r Himalaya, gan gyrraedd hyd at Buan Ghati ar y ffîn â Tibet. Ar 13 Mehefin, dringodd i gopa Boorendo ar ei ben ei hun; efallai y cofnod cyntaf o ddringo mynydd yn yr Himalaya yn unig er mwyn ei ddringo. Yn 1840, cyhoeddodd hanes ei daith fel The Narrative of a Journey from Cawnpoor to the Boorendo Pass. Gwnaed ef yn farchog yn 1838, ac ymddeolodd i Fryn Estyn, Wrecsam.

Cyfeiriadau golygu

   Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.