William Salesbury

ysgolhaig a phrif gyfieithydd y Testament Newydd Cymraeg cyntaf

William Salesbury (hefyd 'Salusbury'; tua 1520 - tua 1584) oedd un o ysgolheigion mwyaf Cymru yng nghyfnod y Dadeni Dysg, a fu'n gyfrifol, gyda'r Esgob Richard Davies a Thomas Huet, am wneud y cyfieithiad cyntaf cyflawn o'r Testament Newydd i'r Gymraeg, a gyhoeddwyd ym 1567.

William Salesbury
William Salesbury ar Gofeb y Cyfieithwyr, Llanelwy.
Ganwydc. 1520 Edit this on Wikidata
Llansannan Edit this on Wikidata
Bu farwc. 1584 Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethgeiriadurwr, ieithydd, cyfieithydd, cyfieithydd y Beibl Edit this on Wikidata
'Cofeb y Cyfieithwyr', Llanelwy

Ei flynyddoedd cynnar golygu

 
Adfeilion Plas Isa, Llanrwst, tua 1900 (darlun gan S. Maurice Jones)

Cafodd ei eni yn Llansannan, yn yr hen Sir Ddinbych yn fab i Ffwg Salesbury (m. 1520) ac Annes, merch Wiliam ap Gruffydd ap Robin o Gochwillan. Erbyn 1540 roedd wedi symud i Blas Isa ar gyrion Llanrwst lle treuliodd ran helaeth o'i lencyndod. Fe'i haddysgwyd ym Mhrifysgol Rhydychen lle astudiodd Hebraeg, Groeg a Lladin; yno, arhosai, mae'n debyg yn Broadgates Hall. Yno hefyd daeth yn ymwybodol o lyfrau gwaharddiedig Martin Luther a William Tyndale a thechnegau argraffu. Nid oes tystiolaeth iddo dderbyn gradd yn Rhydychen ond erbyn 1550 roedd yn Thavies Inn.

Priododd Catrin Llwyd (m. 1572), chwaer Elis Prys, 'Y Doctor Coch', o Blas Iolyn.

Ysgrifennu a Chyfieithu golygu

Yn 1547 cyhoeddodd geiriadur Saesneg-Cymraeg yn 1547 ac Oll synnwyr pen Kembero ygyd, casgliad o ddiarhebion Cymreig a wnaed gan y bardd Gruffudd Hiraethog.

Fel Erasmus a Martin Luther, credai William Salesbury yn gryf mewn gwneud y Beibl ar gael i bawb yn eu mamiaith. Cyhoeddodd gyfieithiad Cymraeg o'r darlleniadau o'r Efengylau a'r Epistolau sydd yn y Llyfr Gweddi Gyffredin Saesneg dan y teitl Kynniver Llith a Ban (1551).

Bu William Salesbury, a oedd yn Brotestant i'r carn, yn cuddio drwy gydol teyrnasiad y frenhines Babyddol Mari I, felly nid argraffwyd dim byd ganddo yn y cyfnod hynny. Dechreuodd ei gyfieithu unwaith eto gydag esgyniad y Frenhines Elisabeth i'r orsedd. Yn 1563 pwysodd am gael y Senedd I basio deddf a wnâi cyfieithu'r Beibl i'r Gymraeg yn un o flaenoriaethau esgobion Cymru a Henffordd. Mae'n gyfrifol hefyd am un o'r ceisiadau cynharaf i ddisgrifio seiniau'r iaith Gymraeg yn ei A briefe and a playne introduction, teachyng how to pronounce the letters in the British tong (1550, ailargraffwyd 1567).

Gwaith botanegol golygu

Yn ogystal â'i waith cyfieithu, roedd Salesbury yn arloeswr cynnar ym myd botaneg.[1] Wedi ei ddylanwadu gan yr Almaenwr Leonhart Fuchs a'r Sais William Turner, ysgrifennodd lysieulyfr gan bwysleisio effeithiau meddyginiaethol planhigion.[2] Ni chafodd y llyfr ei gyhoeddi yn ystod bywyd Salesbury, ond fe'i cyhoeddwyd yn 1916 o dan yr enw Llysieulyfr Meddyginiaethol a Briodolir i William Salesbury wedi ei olygu gan E. Stanton Roberts. Cyhoeddwyd ailargraffiad yn 1997 gan Iwan Rhys Edgar gyda'r teitl Llysieulyfr Salesbury.[3]

Ei effaith ar yr iaith Gymraeg golygu

 
Cofeb i William Salesbury ac enwogion eraill o'r fro, yn Llansannan

Ymdrechai William Salesbury i wneud y Gymraeg yn iaith safonol a fyddai'n dderbyniol gan ysgolheigion drwy ei Lladineiddio. Er enghraifft, roedd y rhagenw gwrthrychol gwrywaidd yn cael ei ynganu [i] (fel y mae'n dal i fod heddiw), ond fe'i sillafwyd ei gan William Salesbury er mwyn gwneud y cysylltiad tybiedig rhyngddo a'r Lladin eius yn fwy amlwg. Mae'r sillafiad honno wedi ennill y dydd, ond mae sillafiadau eraill ganddo, megis eccles am eglwys a discipulon am disgybl(i)on, wedi diflannu'n llwyr, ac, ar y cyfan, nid yw ei system sillafu wedi goroesi.

Llyfryddiaeth golygu

 
Cyfrol yn y gyfres 'Writers of Wales:'; 1994

Gwaith Salesbury golygu

Astudiaethau golygu

  • D.R. Thomas, The Life and Work of Bishop Davies and William Salesbury (1902)
  • E Stanton Roberts, Llysieulyfr Meddyginiaethol a Briodolir i William Salesbury (1916)
  • Isaac Thomas, William Salesbury a'i Destament (1967)
  • Isaac Thomas, Y Testament Newydd Cymraeg 1551-1620 (1976)
  • W. Alun Mathias, ‘William Salesbury – Ei Fywyd a’i Weithiau’ a ‘William Salesbury – Ei Ryddiaith’, yn Y Traddodiad Rhyddiaith, gol. Geraint Bowen (r1970)
  • W. Alun Mathias, ‘William Salesbury a’r Testament Newydd’, Llên Cymru, 16 (1989), tt.40–68

Cyfeiriadau golygu

  1. Jones, Dewi (2000). John Lloyd Williams y Botanegydd. Caernarfon: Gwasg Pantycelyn. URL
  2.  Davies, Raymond B (2008). Cymraeg yr Hen Lysieulyfr. Y Casglwr. Adalwyd ar 22 Awst 2018.
  3. Wynne, Goronwy (2017). Blodau Cymru: Byd y Planhigion. Talybont, Ceredigion: Y Lolfa. ISBN 978-1-78461-424-9

Dolenni allanol golygu